Skip to main content

Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 18 Mis

  • Campws Rhydaman 

Mae Gradd Sylfaen mewn rheolaeth a thechnoleg adeiladu (FdSc) yn rhaglen israddedig dwy flynedd sy'n rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o egwyddorion rheolaeth adeiladu a'r agweddau technolegol sy'n gysylltiedig â'r diwydiant adeiladu.

Mae'r diwydiant adeiladu yn ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym gyda llawer o lwybrau ar gyfer dilyniant gyrfaol sy'n cynnig byd o gyfleoedd.

Caiff y rhaglen 18 mis ran-amser hon ei dilysu a'i achredu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a bwriedir iddi adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd o ganlyniad i astudiaeth flaenorol.  Fe'i cynlluniwyd i ddarparu cymhwyster sy'n addas ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy'n bwriadu ymarfer fel uwch dechnegwyr a'r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach.

Nodweddion y Rhaglen

Prif nod y cwrs yw diwallu anghenion newidiol yr amgylchedd adeiledig trwy baratoi'r rheiny sy'n astudio ar y lefel hon i ennill gradd sylfaen gydnabyddedig sy'n cwrdd ag anghenion y diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant ac sy’n gallu dangos tystiolaeth o lefel briodol o gyfrifoldeb yn eu rôl.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys pum modiwl (cyfanswm o 120 o gredydau lefel pump).  Dyfernir cymhwyster pan fydd yr holl fodiwlau wedi'u cwblhau'n llwyddiannus.  

  • Datblygu Cynaliadwy
  • Ymchwil Beirniadol
  • Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Technoleg Adeiladu
  • Ymarfer Proffesiynol
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae'r cwrs hwn yn darparu cyfle i'r rheiny sy'n dymuno symud ymlaen, neu ddechrau, mewn ystod o yrfaoedd sy'n gysylltiedig ag adeiladu megis technoleg bensaernïol, rheolaeth prosiectau, rheoli adeiladu, tirfesur, rheolaeth safle, cynnal a chadw a gwasanaethau.   Mae yna gyfle i’r rheiny sy’n astudio ar y lefel hon i symud ymlaen i raglen astudio gradd anrhydedd yn amodol ar gwblhau’r modiwlau a chredydau gofynnol yn llwyddiannus.

Dull asesu

Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau, ynghyd â dyddiadur profiad gwaith cymeradwy (ar gyfer y dyfarniad llawn). 

Gofynion Mynediad

HNC Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu (120 credyd L4) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) sy’n gysylltiedig ag adeiladu neu gyfwerth gyda phroffil credyd priodol yn amodol ar gymeradwyaeth y brifysgol. 

Mae'r brifysgol yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol.  Gellir cael manylion pellach gan diwtor y cwrs. 

Costau Ychwanegol

Does dim costau ychwanegol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.