Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r dystysgrif Lefel 1 hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau peintio ac addurno.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn peintio ac addurno.  Byddwch yn gosod effeithiau addurnol, papur wal ac yn ymgymryd â pheintio sgyrtins.

Cipolwg

  Llawn Amser

  1 flwyddyn

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.

Cynnwys y Rhaglen

Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

  • Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch mewn adeiladu

  • Peintio a phapuro
  • Gosod effeithiau addurnol Rhoi papur wal ar onglau mewnol ac allanol a pheintio sgyrtins.
  • Cyflwyniad i’r diwydiant adeiladu

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad a dealltwriaeth bellach o grefftau yn y diwydiant adeiladu.

Asesu'r Rhaglen

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

Gofynion y Rhaglen

Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.   Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd a phrynu eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys Bŵts Diogelwch, Sbectol Diogelwch, Het Galed a Dillad Llachar.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.