Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r diploma Lefel 2 hwn yn datblygu sgiliau gwaith brics, gwaith blociau a gwaith maen uniad tenau ynghyd â'r dehongliad o luniadau gosod allan.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gosod brics.  Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â gosod brics sy'n cael eu gwneud yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel.  Hefyd, bydd uned egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn (3 diwrnod yr wythnos) 

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.

Cynnwys y Rhaglen

Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

  • Iechyd a Diogelwch a lles mewn adeiladu
  • Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
  • Cynhyrchu gwaith maen uniad tenau a chladin gwaith maen
  • Adeiladu waliau solet, pileri ynysig a chysylltiedig
  • Dehongli lluniadau gweithio i osod allan adeileddau gwaith maen
  • Adeiladu waliau ceudod i ffurfio adeileddau gwaith maen

    Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen brentisiaeth yn amodol ar gyfweliad a chyflogaeth a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.  

Asesu'r Rhaglen

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

Gofynion y Rhaglen

Cyfweliad ffurfiol ac yn ddelfrydol bydd myfyrwyr wedi cwblhau diploma L1 mewn Gosod Brics ac yn meddu ar lefelau llythrennedd a rhifedd da.  Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i fyfyrwyr hyn yn amodol ar gyfweliad ffurfiol. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft a ddewiswyd a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd a phrynu eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys Bŵts Diogelwch, Sbectol Diogelwch, Het Galed a Dillad Llachar.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.