Dilysir a dyfernir y rhaglen 18 mis ran-amser hon gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a bwriedir iddi adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd o ganlyniad i astudiaeth flaenorol neu brofiad.
Cynlluniwyd hi i ddarparu cymhwyster sy'n briodol ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy'n bwriadu ymarfer fel uwch dechnegwyr a'r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach.
Cipolwg
Llawn Amser
18 mis
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Cynllun modiwlaidd
Cydnabyddir gan gyrff diwydiannol a phroffesiynol fel y Sefydliad Adeiladu Siartredig
Cymhwyster arunig
Astudio rhan-amser
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys o leiaf saith modiwl penodol. Dyfernir y cymhwyster llawn pan fydd yr holl fodiwlau wedi'u cwblhau.
Modiwlau Penodol -
Cyfraith a Chontract Amgylchedd Adeiledig
Technoleg Adeiladu 1
Iechyd, Diogelwch, Lles a Risg mewn Adeiladu
Tendro ac Amcangyfrif
Syrfeo a Mesur Adeiladau
Deunyddiau a Gwyddoniaeth
Rheolaeth Safle
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall cwblhau'r HNC yn llwyddiannus wella rhagolygon gyrfa o fewn y diwydiant adeiladu a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig megis gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd, cyfleustodau wedi'u preifateiddio a diwydiannau eraill sy'n berchen ar eiddo. Gellir uwchraddio'r cymhwyster i Radd Sylfaen gydag astudiaeth bellach.
Asesu'r Rhaglen
Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau/prosiectau/profion cyfnodol ac arholiadau.
Gofynion y Rhaglen
Cymhwyster Technegol Lefel 3 sy'n gysylltiedig ag adeiladu
Dau gymhwyster Safon Uwch
Myfyriwr hyn gyda phrofiad, yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus
NVQ Lefel 3 mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig ag adeiladu
Costau Ychwanegol
Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.