Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r diploma Lefel 2 hwn yn datblygu sgiliau gosodiad cyntaf ac ail osodiad gwaith saer ynghyd â gweithgareddau cynnal a chadw a defnyddio llif gron. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd. 

 Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â gwaith saer sy'n cael eu gwneud yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel. Hefyd, bydd unedau egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.

Cipolwg

  Llawn Amser

  1 flwyddyn  

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen

  • Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol. Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Cynnwys y Rhaglen

 Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

  • Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
  • Cynnal a defnyddio offer llaw gwaith saer ac asiedydd
  • Paratoi a defnyddio offer pwer cludadwy gwaith saer ac asiedydd
  • Cynhyrchu uniadau gwaith coed
  • Iechyd a Diogelwch a lles mewn adeiladu

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen brentisiaeth yn amodol ar gyfweliad a bydd hyn yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.

Asesu'r Rhaglen

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.

Gofynion y Rhaglen

Diploma Lefel 1 mewn gwaith Saer ac Asiedydd, a chyfweliad llwyddiannus. Dylech hefyd gael eich cyflogi yn y Diwydiant Adeiladu.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd a phrynu eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys Bŵts Diogelwch, Sbectol Diogelwch, Het Galed a Dillad Llachar.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.