Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu ymhellach eu sgiliau ymarferol a'u hyder yn amgylchedd y gegin. Mae’n borth ardderchog i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae mwyafrif y dysgwyr yn defnyddio'r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol neu lefel tri mewn goruchwylio ac arwain lletygarwch y gellir eu darparu fel cwrs llawn amser neu ran-amser neu brentisiaeth.
Llawn Amser
18 Mis
Campws Pibwrlwyd
Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau.
Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar weithio’n effeithiol fel tîm, diogelwch bwyd a hylendid. Mae unedau eraill yn ymdrin â phynciau fel paratoi a choginio cig, pysgod, dofednod a llysiau, gwneud isgellau, cawliau a sawsiau.
Mae prentisiaid yn elwa wrth ennill cyflog tra’n dysgu yn eu gweithle. Yn aml mae yna amrywiaeth o gyflogwyr lleol sy'n ceisio darparu cyfleoedd prentisiaeth i ddysgwyr. Yn aml, gellir cynnig cyflogaeth i brentisiaid ar ôl cwblhau eu prentisiaeth. Mae llawer o brentisiaid yn mynd yn syth i gyflogaeth neu'n dychwelyd ar gwrs llawn amser/prentisiaeth ar lefel uwch.
Asesir unedau trwy arsylwi tasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau. Bydd asesu rheolaidd yn digwydd yn y gweithle.
Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob prentis. Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu i basio'r brentisiaeth. Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.
Disgwylir i brentisiaid brynu set gyfan o ddillad gwyn pen-cogyddion. Mae’n bosibl bydd angen offer ychwanegol megis set o gyllyll.