Gallai’r cwrs coginio Taste of Wales/Blas ar Gymru fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer rhai a’u bryd ar fod yn ben-cogyddion, cogyddion cartref ymrwymedig a rhai sy’n frwdfrydig ynghylch bwyd, i ddod a dathlu’r gorau oll sydd gan gynnyrch o Gymru i’w gynnig. Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r cynnyrch tymhorol gorau oll sydd ar gael ar hyd a lled Cymru gan ddathlu goreuon y ddaear, tir a môr.
Cipolwg
Rhan Amser
4 wythnos (5.00pm – 8.30pm)
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16 oed a hŷn. Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll am £180 y pen. Bydd amrywiol ddulliau coginio, bwtsiera, trin pysgod a sgiliau patisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar gynnyrch tymhorol o Gymru. 1. Morlin ac afonydd Cymru 2. Llysiau, corbys a reis 3. Cig a Helgig 4. Cynnyrch llaeth Cymru a patisserie.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai’r cwrs coginio Taste of Wales/ Blas ar Gymru fod yn fan cychwyn ysbrydoledig a bydd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, gyda’r opsiwn o’r cam nesaf sef cofrestru ar gwrs arlwyo llawn neu ran-amser.
Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol gyda chyrsiau eraill a gynigir fel addurno cacennau a chwrs siocledwr.
Mae darlithwyr yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.
Asesu'r Rhaglen
Adborth arsylwi sesiwn ymarferol ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.
Tystysgrif y coleg ar gwblhau.
Gofynion y Rhaglen
Terfynau oedran 16+ oed. Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.
Costau Ychwanegol
Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys bwyd a gynhyrchir, staff a ffedog wedi’i brandio.