Gallai’r Academi Pen-cogyddion Ifanc yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion. Bydd y cwrs yn cynnig sgil byw y bydd pob person ifanc yn gallu defnyddio nawr ac yn y dyfodol. Bydd cynnyrch lleol, bwyta'n iach, anghenion dietegol a lles cyffredinol yn cael eu hyrwyddo trwy gydol y cwrs.
Cipolwg
Rhan Amser
4 wythnos (5.00pm – 8.30pm)
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Cwrs coginio gyda'r nos yw hwn ar gyfer pobl ifanc 13-16 oed. Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd a’r holl gyfarpar sydd ei angen am £120 y pen. Caiff amrywiol ddulliau coginio a sgiliau eu cyflwyno ym mhob sesiwn.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r rhaglen yn helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol sy'n ofynnol ar gyfer myfyrwyr ifanc sydd eisiau mewnwelediad i arlwyo a gweithio yn y diwydiant deinamig hwn. Cyflwynir y cwrs yng nghegin y coleg. Bydd sesiynau’n cynnwys gwahanol ddulliau coginio a thechnegau gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Caiff yr holl seigiau a baratoir gan y myfyrwyr eu cludo adref.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai’r Academi Pen-cogyddion Ifanc fod yn fan cychwyn a bydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, gydag opsiwn o’r cam nesaf sef cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr ar gwrs arlwyo llawn amser.
Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd boddhaus yn lleol ac ym mhrif ddinasoedd y DU.
Bydd athrawon yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.
Asesu'r Rhaglen
Adborth arsylwi sesiwn ymarferol ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.
Tystysgrif Coleg Sir Gâr ar gwblhau.
Gofynion y Rhaglen
Terfynau oedran, 13 i 16 oed. Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.