Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith Lefel 2, lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth. Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3.
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau, a fydd yn cynnwys unedau craidd ac ychwanegol. Bydd y dysgwr, y cyflogwr a’r ymgynghorydd hyfforddi yn dewis yr unedau ychwanegol gyda’i gilydd. Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y lleoliad.
Hefyd bydd angen i’r dysgwr gyflawni:
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gweithle a thystiolaeth yn y gweithle.
Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth; fodd bynnag, ceir cymwysterau a phrofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn ee:
Bydd Ymgynghorwyr Hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, naill ai lefel un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster sy’n rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad. Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.