Mae Prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y Diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis. Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig. Bydd y dysgwr hefyd yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif.
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Brentisiaeth hon yn llwyddiannus ar y safon ofynnol, ddatblygu eu hunain ymhellach gyda chymwysterau galwedigaethol ychwanegol neu Gyrsiau Addysg Bellach eraill. Mae dilyniant i Addysg Uwch yn bosibl, mae esiampl o rai o’r cyrsiau sydd ar gael yn y DU yn cynnwys: -
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:-
Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.