Mae Prentisiaeth Uwch yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith ar Lefel 4 lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Mae’r llwybr Rheolaeth Amaethyddol yn briodol ar gyfer rheolwyr uned sy’n gyfrifol am reolaeth menter benodol - h.y. uned ddefaid neu bîff.
Mae’r llwybr rheolaeth busnes Amaethyddol yn briodol ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol Fferm sy’n cynorthwyo Rheolwr Fferm gyda rheolaeth fferm. Bydd y Prentis yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis. Gall y cyflwyno gynnwys mynychu’r coleg un dydd yr wythnos, ar sail rhyddhau am floc byr neu ddysgu o bell. Dylai’r dysgwr gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 4 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Uwch hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Gyrsiau Addysg Uwch eraill.
Llwybr 1
Tystysgrif Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Amaethyddol Seiliedig ar Waith
Llwybr 2
Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith
Llwybrau 1 a 2
Tystysgrif Lefel 4 Edexcel BTEC mewn Rheoli Prosiect ar gyfer diwydiannau Ar Dir
Rhaid cyflawni Sgiliau Hanfodol er mwyn cwblhau’n llwyddiannus: -
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith
Mae’r diwydiant Amaeth am i’r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch fod yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o’r canlynol:-