Mae Prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3 lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn eu swydd. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Mae gan y Prentis y dewis o gael ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg fel y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r ymgynghorwr hyfforddi a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Gall y Brentisiaeth arwain at waith parhaol, Gradd Sylfaen neu raglen Brentisiaeth Lefel Uwch.
Rhaid i’r dysgwr gyflawni’r holl Unedau Craidd yn ogystal ag unedau ychwanegol. Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y lleoliad.
Rhaid i ddysgwyr sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Uwch gyflawni Uned 317 - sefydlu, monitro a chynnal hylendid safle a bio-ddiogelwch.
Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gweithle a thystiolaeth yn y gweithle.
Mae’r diwydiant amaeth am i’r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch fod yn hyblyg, felly bydd Ymgynghorwyr Hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, naill ai lefel un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster sy’n rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad.
Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.