Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y Diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol. Anelir y rhaglen at y dysgwyr sydd dros 16 oed. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis. Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig. Bydd y dysgwr hefyd yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus ar y safon ofynnol, symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys: -
Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith
Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Cadwraeth Amgylcheddol; fodd bynnag, mae yna gymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr ddeall y sector cyn dechrau, er enghraifft:-
Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru