Mae opsiwn cwrs nos ar gael ar gampws y Graig yn Llanelli, yn ogystal â'r opsiynau yn ystod y dydd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Mae cyrsiau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn uchel eu parch gan y diwydiant ac yn boblogaidd gyda phobl sydd am ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth a hefyd gyda garddwyr brwd sydd am ddysgu mwy.
Mae gan fyfyrwyr sydd ar y cyrsiau a gynhelir yn yr Ardd Fotaneg fynediad i'r tiroedd, y planhigion a'r cyfleusterau yn y gerddi i'w helpu i ddysgu. Bydd y rheiny sy'n mynychu'r cwrs nos yn ymweld â gerddi eraill yn ystod y cwrs.
Mae darlithwyr profiadol o gefndiroedd amrywiol yn rhannu eu gwybodaeth a'u sgiliau i'ch helpu i'ch cael chi i'r lle rydych am fod.
Mae'r cymhwyster yn darparu gwybodaeth am yr egwyddorion gwyddonol sydd yn tanategu arferion garddwriaethol. Mae'r cymhwyster yn cynnwys pedair uned orfodol sydd yn cwmpasu'r pynciau canlynol:
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs hwn symud ymlaen i:
Ar ôl cwblhau pob un o'r tri, bydd y myfyrwyr yn ennill Diploma Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth. Hefyd mae yna opsiynau a gellir symud ymlaen i Lefel 3 yn yr un lleoliad. Wedi hynny, mae opsiynau pellach mewn Garddwriaeth ar gael mewn sefydliadau eraill.
Unedau gorfodol:
Asesir pob uned trwy arholiad ysgrifenedig ar wahân, a gaiff ei osod a'i farcio gan yr RHS. Cynigir arholiadau ddwywaith y flwyddyn ym misoedd Chwefror a Mehefin.
Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus yr holl unedau gorfodol ar gyfer y ddau gymhwyster Lefel 2 seiliedig ar theori yn ennill Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Garddwriaeth.
Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus yr holl unedau gorfodol ar gyfer y ddau gymhwyster Lefel 2 seiliedig ar theori a'r Dystysgrif Ymarferol Lefel 2 yn ennill Diploma Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith yn y diwydiant neu fod yn arddwyr profiadol.
Nid oes yna gymwysterau mynediad academaidd ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.