Mae hwn yn gwrs delfrydol ar gyfer y rheiny sy'n dymuno camu i'r diwydiant amaethyddol ond sydd efallai heb unrhyw brofiad neu gymwysterau ffurfiol.
Cwrs llawn amser yw hwn a gyflwynir fel rheol dros dri diwrnod yr wythnos.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu eich theori a sgiliau ymarferol mewn amaethyddiaeth.
Fel rhan o'r rhaglen byddwch yn cael cynnig cymorth gyda sgiliau rhifedd, llythrennedd, cyfathrebu a sgiliau digidol. Gallai hyn arwain at gymhwyster mewn Sgiliau Sylfaenol.
Yn dilyn llwyddiant ar lefel teilyngdod neu ragoriaeth fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel dau llawn amser. Os byddai'n well gennych gamu i fyd gweithio ar fferm yna gallai prentisiaeth fod yn addas i chi. Mae’r staff yn hapus i’ch cefnogi a’ch tywys o ran eich dyheadau.
Bydd gan y cwrs hwn nifer o unedau sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.
Bydd y rhain yn cynnwys edrych ar ôl anifeiliaid, er enghraifft, gwartheg llaeth a bîff a defaid. Yn ogystal, bydd ganddo unedau sy’n gysylltiedig â pheiriannau fferm, er enghraifft, tractorau ac offer. Bydd hefyd yn edrych ar gnydau sy’n cael eu defnyddio wrth ffermio anifeiliaid.
Bydd y tasgau ymarferol yn cael eu cyflawni ar fferm y coleg yn ystod sesiynau fferm ymarferol, lle byddwch yn cael eich dysgu i wneud amrywiaeth o dasgau rŵtin fel bwydo, gosod gwelyau gwellt, glanhau llociau, wyna, lloia a phob gofal iechyd arferol.
Bydd hyn yn seiliedig ar asesiadau ymarferol, llafar ac ysgrifenedig sy'n parhau trwy gydol y cwrs.
Mae pob aseiniad yn cynnwys cyfres o dasgau, sy’n cael eu hasesu fel pasio neu fethu yn unig a gall y tasgau amrywio o ran fformat.
Gall rhai fod yn seiliedig ar berfformiad a bydd eraill yn canolbwyntio ar wybodaeth greiddiol yr uned.
Bydd prawf ar-lein y byddwch yn cael eich paratoi’n dda ar ei gyfer.
Yn ogystal, byddwch yn casglu portffolio o dystiolaeth i arddangos eich cyflawniadau sy’n pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster, sef pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Bydd yn cynnwys y rhestrau gwirio marcio ar gyfer yr aseiniadau a samplau o logiau gwaith, ffotograffau a thystiolaethau gan dystion.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae natur y dysgu a’r asesu sy’n ofynnol ar gyfer y cymhwyster yn golygu y bydd angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol ar ddysgwyr, er enghraifft, y gallu i ddarllen a dehongli tasgau ysgrifenedig ac i ysgrifennu atebion ar ffurf ddarllenadwy a dealladwy. Mae'n hanfodol bod gennych ddiddordeb mewn ffermio, anifeiliaid a chnydau.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.