Mae'r cymhwyster Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Amaethyddiaeth (1080) yn rhoi'r cyfle i chi astudio ystod o sgiliau a gwybodaeth ymarferol, technegol ac arbenigol sy'n adeiladu ar y sgiliau craidd o arferion gwaith diogel ym maes ffermio, hwsmonaeth da byw, cynhyrchu cnydau a gweithredu peiriannau amaethyddol yn ogystal â sgiliau busnes. Yna gallwch ddysgu sgiliau arbenigol pellach megis iechyd a maetheg anifeiliaid fferm, arferion gweithdy amaethyddol, a chynhyrchu cnydau porthiant.
Mae yna ddau lwybr opsiwn yn yr ail flwyddyn: Da Byw a Mecaneiddiad Fferm.
Mae’n gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch.
Mae'n cynnwys cyfnod o leoliad gwaith am wyth wythnos, fel arfer ar ffermydd neu sefydliadau amaethyddol eraill. Caiff hwn ei wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae yna gyfle i wneud lleoliad blwyddyn lawn rhwng y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn.
Ar ôl gorffen, gallwch: -
Unedau’r Flwyddyn Gyntaf
Unedau’r Ail Flwyddyn
Llwybr Da Byw
Llwybr Mecaneiddiad Fferm
Mae’r cwrs Diploma Estynedig Technegol Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth (1080) wedi’i rannu i unedau, a rhaid pasio pob un er mwyn cwblhau’r cwrs. Caiff pob uned ei graddio fel Rhagoriaeth, Teilyngdod, Pas, neu Gyfeirio.
Bydd canlyniadau’r flwyddyn gyntaf yn cael eu cario ymlaen i’r ail flwyddyn.
I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr gyflawni’r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:
All learners are required to pay an administration fee of £45 prior to enrolment.
You will need to provide your own stationery and may also incur costs if the department arranges educational visits.