Côd UCAS: C22
Côd Cwrs: 3H2F
Mae'r cwrs llawn a rhan-amser hwn yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y rheiny sy'n camu i fyd ffermio ymarferol, rheoli fferm a diwydiannau gwasanaeth amaethyddol megis Maethegwyr, Ymgynghorwyr, Arolygwyr Llesiant Ffermydd a Masnachwyr Cyflenwadau Amaethyddol.
Nod y coleg yw darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i'r rheiny sy'n bwriadu camu i'r diwydiant fel ffermwyr, rheolwyr busnesau a rheolwyr ffermydd neu weithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol.
Ar ôl cwblhau’r Radd Sylfaen yn llwyddiannus gall myfyrwyr symud ymlaen i’r rhaglen gradd BSc mewn Amaethyddiaeth.
Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 1; Sgiliau Astudio mewn Amaethyddiaeth; Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 2 - Ymchwil a Gwerthuso ar Leoliadau; Astudiaeth Arbenigol; Rheoli Busnes ar Dir; Gwyddor Anifeiliaid Amaethyddol; Cnydau Amaethyddol, Gwyddor Planhigion a Phridd; Cynhyrchu Llaeth; Cynhyrchu Bîff; Cynhyrchu Defaid; Tir fel Adnodd; Ecoleg Amaethyddol; Ffermio a'r Amgylchedd; Maetheg Anifeiliaid Fferm; Iechyd Anifeiliaid Fferm; Cynhyrchu Glaswellt a Phorthiant.
Caiff perfformiad y myfyrwyr ei fonitro trwy aseiniadau, asesu parhaus, arholiadau, gwaith ymarferol, asesu ar ddiwedd modiwl a chwblhau prosiect mawr.
Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sy'n dangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 40 pwynt UCAS.
Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hyn nad ydynt efallai'n bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad yn seiliedig ar eu profiad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC Lefel 3.
Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma