Crëwyd Coleg Sir Gâr yn 1985 a daeth yn sefydliad corfforaethol yn 1993. Yn 2013 cafodd ei wneud yn gwmni sef Coleg Sir Gâr Cyf, o fewn Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a rhan o Brifysgol Sector Deuol ranbarthol. Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o dros £35m ac mae'n cyflogi tua 800 o staff.
Lleolir y Coleg yn Ne-orllewin Cymru ac mae ganddo bum prif gampws yn Llanelli (Y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (Y Gelli Aur). Mae'r Coleg hefyd yn gartref i Ysgol Gelf Caerfyrddin, sydd â'i gwreiddiau'n dyddio nôl i 1854.
Mae gan y Coleg tua 9,000 o ddysgwyr, gyda rhyw 3,000 ohonynt yn llawn amser a 6,000 yn rhan-amser. Ceir yno tua 900 o ddysgwyr addysg uwch. Mae hefyd yn cynnig ei ddarpariaeth ar-lein, trwy bartneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle.
Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o raglenni dysgu academaidd a galwedigaethol. Mae'r rhain yn amrywio o lefel cyn mynediad i raglenni graddedig, gan ddarparu gwasanaeth i'r gymuned ddysgu gyfan. Mae'n cynnig addysg bellach, addysg oedolion a'r gymuned, addysg uwch, dysgu yn y gwaith a rhaglenni a gwasanaethau pwrpasol ar gyfer datblygu busnes. Mae'n darparu hefyd ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol 14-16 oed sy'n mynychu'r Coleg neu'n cael eu dysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion.
Block
190
Crëwyd yn
0
Dysgwyr
0
Dysgwyr AU
Bwyty Myrddin
Cae chwarae 3G
Amgylchedd Hamddenol
Siopau Coffi
Y Ffowndri
Labordai MAC
Cyfleusterau.
Mae’r ystod eang o gyfleusterau sydd gan y coleg yn dyst i’w fuddsoddiad ariannol a’r pwysigrwydd a roddir ganddo ar ddarparu’r amgylchedd dysgu gorau posibl i’w fyfyrwyr er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith neu’r brifysgol.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys: Arena dan do i geffylau; Ty bwyta hyfforddi (Bwyty Myrddin); Salonau gwallt a harddwch; Canolfan adeiladu a chanolfan peirianneg fodurol newydd; Stiwdio ddawns, Switiau CAD/CAM, canolfan beirianneg, Ffowndri haearn bwrw; Technolegau tecstilau; Maes chwarae pob tywydd; Cyfleusterau profi ffitrwydd a gwyddor chwaraeon; Academi Roland; Stiwdio Gyfryngau; Switiau Mac; Labordai iaith; Campws amaethyddol ynghyd â fferm weithiol a chanolfannau adnoddau dysgu gyda mynediad i’r rhyngrwyd a’r feddalwedd Microsoft ddiweddaraf.
Lleolir y cyfleusterau ar draws ein pum campws lle caiff gwahanol feysydd pwnc eu cyflwyno. Er enghraifft, Rhydaman yw canolbwynt yr holl gyrsiau adeiladu ac yno ceir amrywiol ardaloedd ar gyfer cyrsiau trydanol, nwy a solar. Ar gampws Pibwrlwyd fe welwch chi’r myfyrwyr arlwyo yn treulio noson bob wythnos yn y bwyty hyfforddi yn gweini’r cyhoedd neu’r myfyrwyr gwallt a harddwch yn treulio eu hamser yn cynnig triniaethau i gleientiaid yn y salon. Mae gan bob campws ei amgylchedd dysgu unigol ei hun ac rydym yn argymell bod darpar fyfyrwyr yn dod i weld y cyfleusterau mewn noson agored lle byddant hefyd yn medru siarad â’r staff dysgu a’r staff cynnal.
Canlyniadau safon uwch yn parhau i ddangos safonau uchel.
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr unwaith eto’n dathlu ar ôl ennill set ardderchog o ganlyniadau Safon Uwch. Roedd canran y graddau A* - E unwaith eto’n arbennig o uchel sef 99%, gyda 25 allan o 28 o bynciau’n cofnodi canran lwyddo o 100%.
Yn ychwanegol, mewn pynciau Gwyddoniaeth a Mathemateg enillodd canran uchel o fyfyrwyr y radd A* uchaf; Safon Uwch Bioleg (13%), Cemeg (17%) Ffiseg (8%) Mathemateg (10%) a Mathemateg Bellach (25%), Daearyddiaeth (17%), Llywodraeth a Gwleidyddiaeth (17%) Drama ac Astudiaethau Theatr (50%) a Chymraeg [Ai Iaith] (13%) hefyd yn ennill cyfran uchel o raddau A*, sy’n pwysleisio gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr a staff fel ei gilydd ar draws y rhaglen Safon Uwch.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.