Campws y Graig
Campws y Graig yw'r mwyaf o bum campws Coleg Sir Gâr. Lleolir y Campws ger pentref Pwll ar arfordir de-orllewin Cymru yn Llanelli. Ceir golygfeydd o benrhyn Gŵyr o'r Campws, ac mae'n lle gwych i astudio gyda'i ystod o gyfleusterau addysgu ac adnoddau da a'r Hwb, sef ardal i'r myfyrwyr a ddyluniwyd ar gynllun cyfoes ac sy'n cynnig cymorth personol a chyfleoedd dysgu.
O fewn yr Hwb ceir ystod o swyddogaethau cefnogi dysgwyr fel mentoriaid dysgwyr, swyddfa yrfaoedd, swît gynghori, podiau dysgu ac Undeb y Myfyrwyr. I fyny'r grisiau ceir ardal gymdeithasol i'r myfyrwyr ymlacio ynddi, sydd nesaf at Siop Goffi Starbucks a Llyfrgell y campws sy'n cynnwys ystod gynhwysfawr o e-adnoddau, llyfrau, cylchgronau, papurau, newyddiaduron a chyfarpar TG.
Ceir ymdeimlad gwych o gymuned a bywiogrwydd ar y campws, sy’n deillio o gyfuniad o fyfyrwyr brwdfrydig yn astudio gwahanol ddisgyblaethau. Cânt eu meithrin, maent yn derbyn gofal a chânt eu harwain gan aelodau o staff ymroddgar a phrofiadol sy’n eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn, gan eu galluogi i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu haddysg, boed hynny mewn coleg, mewn prifysgol, mewn swydd neu mewn hunangyflogaeth.
Mae'r campws hefyd yn gartref i 6ed Sir Gâr, cyfleuster Safon Uwch y Coleg sy’n cynnwys y rhaglen Mwy Galluog a Thalentog (MAT) a'r Academi Chwaraeon sy'n darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer athletwyr elit mewn ystod o chwaraeon. Ceir yno gyfleusterau arbenigol i gefnogi addysg, dysgu a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae gan bob ystafell ddosbarth y dechnoleg Wi-Fi angenrheidiol ar gyfer dysgu. Y campws yw’r brif ganolfan ar gyfer cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ogystal â mynediad i addysg uwch, diwydiannau creadigol, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, peirianneg, cyfrifiadura, busnes, teithio a thwristiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwallt a harddwch.
Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Campws Heol Ffynnon Job yw prif gampws y coleg ar gyfer celf a dylunio a dyma gartref Ysgol Gelf Caerfyrddin. Mae gan yr Ysgol hanes sy'n dyddio nôl i 1854. Mae'r campws yn gyfleuster celf a godwyd yn benodol i'r pwrpas ac felly mae ganddo awyrgylch ysgol gelf unigryw a chyfeillgar, sydd wedi'i neilltuo i weithgareddau celf a dylunio.
Lleolir y campws drws nesaf i gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ac mae’n rhannu adnoddau gyda’r brifysgol. Mae’r campws yn darparu ystod eang o gyfleusterau i’r myfyrwyr ar gyfer gweithgareddau megis cerfio carreg, gofannu a chastio metel, cerfio pren, cerameg, tecstilau, ffasiwn, peintio a lluniadu, ffotograffiaeth, graffeg a darlunio digidol.
Ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer gwaith celf a dylunio â chymorth cyfrifiadur; gwehyddu â gwŷdd jacquard; weldio â laser a ffasno gwisgoedd ffasiwn/tecstilau; a thorri â laser. Mae’r campws hefyd yn gartref i Oriel Henry Thomas, a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd gan y myfyrwyr ac arddangosfeydd cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn, ac sydd yn arbennig yn un o leoliadau’r gyfadran ar gyfer arddangosfeydd diwedd blwyddyn y myfyrwyr sydd ar raddfa fawr. Gall myfyrwyr hefyd weithio y tu allan ac ar dir y campws lle caiff cerfluniau pren, maen a dur eu harddangos yn ogystal â darnau o waith sydd ar y gweill, sy’n ei wneud yn lle cyffrous a chreadigol i astudio ynddo.
Mae Pibwrlwyd yn gampws cyfeillgar mewn lleoliad gwledig ar gyrion tref farchnad Caerfyrddin sydd hefyd yn ganolfan fasnachol ar gyfer ardal fawr a ffyniannus. Mae’r campws yn gartref i ystod eang o bynciau cwricwlwm sy’n rhychwantu addysg bellach ac addysg uwch. Ar y campws mae’r prif weithgareddau yn cynnwys Celf a Dylunio, Gwyddor Anifeiliaid, Peirianneg Fodurol, Busnes a Rheolaeth, Arlwyo a Lletygarwch, Astudiaethau Ceffylau, Teithio & Thwristiaeth, Hyfforddi Athrawon a Nyrsio Milfeddygol. Caiff yr holl weithgareddau eu cefnogi’n dda gan adnoddau a chyfleusterau sy’n cynnwys:
Mae’r lleoliad, y cyfleusterau a’r staff i gyd yn creu cymuned ddysgu glòs ar y campws lle mae pawb yn gefnogol ac yn ofalgar tuag at anghenion y myfyrwyr.
Campws Rhydaman
Mae’r gweithgarwch dysgu ar gampws Rhydaman yn canolbwyntio ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, ynghyd â chrefftau’r diwydiant adeiladu. Mae’r gyfadran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cynnal ystod eang o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch ar y campws, gan gynnwys NVQs a chyrsiau byrion mewn cynghori. Mae’r cyrsiau hyn yn boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr o bob cefndir sy’n creu awyrgylch arbennig ar y campws. Mae presenoldeb nifer fawr o fyfyrwyr lefel mynediad sy’n cael eu haddysgu ar gyrsiau sgiliau byw’n annibynnol yn ychwanegu at yr awyrgylch hwn. Caiff eu datblygiad ei gefnogi gan adnoddau ardderchog ar y campws megis cegin, ystafell ymolchi a gardd.
Mae’r adran adeiladu’n cyflwyno cyrsiau mewn gosod brics, gwaith plymwr, plastro, peintio, addurno, gosod trydanol a chrefftau pren. Mae poblogrwydd a llwyddiant y cyrsiau hyn yn sicrhau bod y campws bob amser yn ferw o brysurdeb. Cafodd gweithdai o’r radd flaenaf eu hadeiladu er mwyn ateb y galw am hyfforddiant ac maent yn cynnwys Canolfan Datblygu a Chynnal Technoleg Adeiladu at ddefnydd Busnesau Bach a Chanolig sy’n gweithredu o fewn yr amgylchedd adeiledig. Agwedd allweddol ar y ganolfan yw cyfleuster ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy, a chyflwyno rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid allweddol o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Mae cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol wedi dweud bod campws Rhydaman yn lle gwych i astudio ynddo gan fod ganddo awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar sy’n gwneud profiad y myfyrwyr yn un pleserus. Caiff hyn ei adlewyrchu gan nifer o straeon am lwyddiant myfyrwyr, sydd wedi ennill clod uchel a gwobrau cenedlaethol am addysgu ar draws holl weithgareddau'r campws.
Campws y Gelli Aur
Mae’r campws yn gyfleuster a godwyd yn benodol i'r pwrpas, a dyma hefyd gartref fferm y coleg sy’n ymestyn dros 211 hectar o dir. Prif ffocws y campws, a leolir yng nghanol ffrwythlondeb Dyffryn Tywi, dair milltir o Landeilo a 14 milltir o Gaerfyrddin, yw paratoi’r myfyrwyr ar gyfer ystod o astudiaethau ar dir a galwedigaethau peirianneg amaethyddol yng nghefn gwlad.
Lleolir y bloc addysgu drws nesaf i’r fferm mewn llecyn braf a dymunol, ac mae’r adnoddau’n cynnwys y dechnoleg TG a’r labordai gwyddoniaeth diweddaraf, a llyfrgell/canolfan ddysgu â'r holl gyfarpar angenrheidiol. Ceir yno dros 400 o wartheg godro wedi’u rhannu’n ddwy fuches o 200 yr un o wartheg wedi’u paru, sy’n golygu bod modd gwerthuso dwy strategaeth rheoli buches ar wahân.
Ceir menter eidion fach hefyd, a phraidd o 400 o famogion bridio. Mae’r Gelli Aur hefyd yn gartref i’r Ganolfan Adnoddau Fferm sydd hithau’n gartref i’r Ganolfan Datblygu Llaeth. Nod y Ganolfan Datblygu Llaeth, a lansiwyd ym mis Ionawr 2002, yw hwyluso datblygiad y diwydiant llaeth yng Nghymru trwy gyflwyno gwasanaeth trosglwyddo technoleg rhagweithiol a gwybodaeth am y farchnad, a thrwy ddarparu cyngor arbenigol.
Mae’r cyfuniad o addysgu ardderchog, ffermio masnachol a throsglwyddo technoleg wedi arwain at gydnabod y Gelli Aur fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer astudiaethau ar dir yng Nghymru. Golyga hyn hefyd bod y Gelli Aur yn gampws clòs a chyfeillgar iawn sy’n cynnig y gorau yn unig i’w fyfyrwyr ac i’r diwydiant amaeth yn gyffredinol.
Cyfleusterau Cynadledda
Mae’r Gelli Aur hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn ar gyfer seminarau, cynadleddau a chyfarfodydd. Mae’r cyfleusterau modern, ynghyd â thîm ymroddedig o ddarlithwyr, hyfforddwyr a staff cymorth technegol, a gwasanaeth arlwyo ardderchog sy’n cynnig bwydlenni amrywiol yn ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.