Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin.

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn eich helpu. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn, anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y medrwn.
Pa gyrsiau ydych chi'n eu cynnig?

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau llawn amser gan gynnwys rhaglenni Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol. Yn ogystal rydym yn cynnig prentisiaethau, rhaglenni astudio rhan-amser a chyrsiau byr.

Beth allaf ei wneud pan fyddaf wedi gorffen fy nghwrs?

Mae llawer o’n dysgwyr yn symud ymlaen i brifysgol, yng Nghymru a thu hwnt. Cefnogir yr holl ddysgwyr gyda'u ceisiadau UCAS trwy Diwtorialau un-i-un.

Mae gan y coleg gysylltiadau rhagorol gyda phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a’r Grŵp Russell a thrwy ein rhaglen ACE a’r rhwydwaith Seren, caiff myfyrwyr eu paratoi’n drylwyr ar gyfer gwneud cais a chyfweliad.

Yn ogystal mae'r coleg yn cefnogi dysgwyr i gael gwaith, ac rydym wedi datblygu cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant. Cynigiwn lwybrau prentisiaeth mewn ystod eang o sectorau. Mae arweiniad gyrfaol ar gael trwy gyfweliadau Tiwtorial un-i-un, a thrwy Gyrfa Cymru.

Beth yw pwyntiau UCAS a beth maen nhw yn ei olygu?

Mae pwyntiau Tariff UCAS yn trosi eich cymwysterau a'ch graddau yn werth rhifiadol.  Mae gan lawer o gymwysterau (ond nid pob un) werth Tariff UCAS, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar faint y cymhwyster, a’r radd rydych wedi’i hennill. 

Mae rhai prifysgolion, colegau a conservatoires yn cyfeirio at bwyntiau Tariff UCAS yn y gofynion mynediad ar gyfer eu cyrsiau, ond nid yw hyn yn golygu na fyddant yn ystyried cymwysterau nad ydynt yn ymddangos ar y Tariff, felly mae'n ddoeth gwirio gofynion mynediad y cwrs yn ofalus.

Gallwch edrych ar eich pwyntiau Tariff UCAS trwy ddod o hyd i'ch cymwysterau ar gyfrifiannell pwyntiau Tariff UCAS trwy'r wefan ganlynol https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator

Beth yw eich polisïau ynghylch ymddygiad a phresenoldeb?

Mae polisïau sy'n ymwneud â'r Cod Ymddygiad, y System Ddisgyblu, Presenoldeb a Gweithdrefnau Monitro Absenoldeb i'w gweld yma.

Ydy’r coleg yn darparu unrhyw gymorth ychwanegol i ddysgwyr?

Rydym yn ymfalchïo yn y lefel o gymorth sydd ar gael. Mae gennym dîm o fentoriaid a chynghorwyr hyfforddedig i roi cefnogaeth gyfrinachol 1:1 ar ystod o faterion lles.

Yn ogystal, rydym yn darparu cymorth dysgu i bobl ag Anghenion Ychwanegol.  Mae’r cymorth hwn yn cynnwys addysgu arbenigol 1:1, darparu consesiynau arholiad, cymorth gan gynorthwywyr cymorth dysgu yn yr ystafell ddosbarth a help gyda chyfarpar a meddalwedd arbenigol.

Os yw dysgwyr wedi cael cymorth yn yr ysgol, mae'n fwy tebygol y gallwn ni ddarparu hyn yn ystod eu hamser yn y coleg.  Gallai’r cymorth hwn gynnwys:

  • Cymorth 1:1 neu gymorth grŵp gyda Chynorthwy-ydd Cymorth Dysgu yn y dosbarth
  • Amser ychwanegol ar gyfer arholiadau/asesiadau allanol
  • Cymorth ac arweiniad gyda Dyslecsia
  • Cefnogaeth mentora a chynghori
  • Lle tawel yn ystod y dydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen arweiniad pellach, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dysgu a Lles, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ydy’r coleg yn darparu cymorth ariannol?

Efallai y bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gyllid trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn dibynnu ar eu hoedran, eu dull astudio ac incwm y cartref.  Mae’r cynlluniau yn cynnwys Lwfans Cynnal Addysg (EMA) ar gyfer dysgwyr 16-18 mlwydd oed, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) ar gyfer pobl 19+ oed a chynlluniau ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch trwy grantiau a benthyciadau. I ddarganfod mwy, edrychwch ar eu gwefan www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Mae ffurflenni cais ar gael ar bob campws a gall myfyrwyr AU wneud cais ar-lein trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae’n bosibl y gall Myfyrwyr Addysg Bellach (AB) hefyd wneud cais am gyllid trwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn y Coleg (FCF) am gymorth gyda chostau megis costau hanfodol cwrs, costau gofal plant, ffi’r gwasanaeth datgelu a gwahardd (DBS) a chostau teithio.  Mae’r gronfa hon hefyd yn ddibynnol ar incwm y cartref ac mae ffurflenni cais ar gael ar bob campws. Mae ein Gweithwyr Cyswllt a Chefnogi yn hapus i helpu gydag unrhyw un o’r opsiynau cyllid a nodwyd a gellir cysylltu â nhw yn uniongyrchol.

Campws Rhydaman a’r Gelli Aur - Jamie Davies @ 01554 748305 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Campws y Graig – Debbie Williams @ 01554 748036 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Campws Ffynnon Job a Phibwrlwyd – Filipe Nunes @ 01554 748070 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

A oes gan y coleg unrhyw lety ar gyfer myfyrwyr?

Er nad oes gan y coleg ei neuaddau ei hun ar gyfer myfyrwyr, mae gennym restr o landlordiaid preifat sy'n cynnig llety i fyfyrwyr a gall ein myfyrwyr Addysg Uwch gael mynediad i floc llety Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.uwtsd.ac.uk/cy/llety

A oes gan y coleg unrhyw glybiau neu gymdeithasau i fyfyrwyr?

Mae gan y coleg amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau sy'n cael eu rhedeg yn ôl y galw, gan gynnwys, Undeb Cristnogol, Clwb Ffilm ac ati.  Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chlybiau ar gael yn swyddfa'r campws.

A oes Undeb Myfyrwyr gan y coleg?

Mae gan y coleg Undeb Myfyrwyr gyda swyddogion sy’n cymryd rhan mewn etholiadau ar gyfer Llywydd ym mis Mai a rolau swyddogion eraill ym mis Hydref bob blwyddyn.  Cynrychiola’r swyddogion y corff myfyrwyr ar bob lefel gan gynnwys y Bwrdd Llywodraethwyr. 

Eu cenhadaeth yw gwneud gwahaniaeth ac i weithio gyda’r holl fyfyrwyr er mwyn gwneud i newid ddigwydd. Cysylltwch â’r Undeb Myfyrwyr am fwy o wybodaeth Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.