Asesiad Gwyddor Chwaraeon Penodol > Ymarfer yn GLYFRACH> Ymarfer yn GALETACH > Ymdrechu at Berfformiad Brig
Pam Wattbike?
O’i gychwyn cynnar mae’r Wattbike wedi bod yn flaengar o ran technoleg beicio. Wedi’i ddatblygu ar y cyd â Beicio Prydain, treuliodd y Wattbike bron i 8 mlynedd yn cael ei ddatblygu dan lygad gwyliadwrus Peter Keen, Cyn-Gyfarwyddwr Perfformiad Beicio Prydain a Phennaeth UK Sport.
Gyda rôl hanfodol i chwarae o ran helpu datblygu pencampwyr, cafodd y Wattbike ei gynllunio a’i adeiladu i safonau manwl. Gyda’r gallu i fonitro’r data perfformiad sydd ei angen gan brif athletwyr a hyfforddwyr y byd, daw’r Wattbike ag ansawdd proffesiynol i gampfeydd a stiwdios beicio o gwmpas y byd crwn. Mae’r cywirdeb, y teimlad anhygoel sy’n ymgorffori Technoleg Reid Real (RRF) Wattbike ac ansawdd cadarn ei saernïaeth yn golygu mai’r Wattbike yw’r safon y mae pob beic mewnol yn anelu ato. Er gwaetha’r ffaith mai ond yn 2008 cafodd ei lansio, mae’r Wattbike eisoes wedi chwarae rôl annatod mewn llawer o lwyddiannau yn y gemau Olympaidd a Phencampwriaeth y Byd.
Mabwysiadwyd y Wattbike gan athletwyr o gampau mor amrywiol ag Athletau, Hoci Iâ, Rasio Moduron Fformiwla Un a Rygbi, ac mae’n cynnig profiad ymarfer unigryw i athletwyr nad yw ar gael ar unrhyw ddarn arall o gyfarpar ffitrwydd. Nawr gall eich aelodau ymarfer fel mabolgampwyr proffesiynol hefyd!