Skip to main content

Dwyieithrwydd.

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth a’u hethos dwyieithog. Rydym yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac yn annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac yn bwysig iawn i ni fel coleg.

Gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi eu hunain. Mae’r iaith yn perthyn i bawb sy’n byw yma ac mae buddion addysgol, cyflogadwyedd a chymdeithasol o fod yn gallu siarad dwy iaith.

Gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant a mwynhau’r amrywiaeth o idiomau, dywediadau, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a thraddodiadau. Mae siarad Cymraeg, hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, yn wych ar gyfer eich CV a gallai agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol.

Bellach mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd, felly gallai astudio’n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith. Mae eich sgiliau dwyieithog yn werthfawr iawn a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi yn y coleg i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach. Gallwn ni eich helpu i wella eich cyfleoedd gyrfaol trwy ganiatáu i chi astudio ystod o gyrsiau’n ddwyieithog, yn enwedig ym meysydd pwnc blaenoriaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Astudiaethau Ar Dir a Chwaraeon.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ein cefnogi i greu cyfleoedd hyfforddi a dysgu yn Gymraeg i ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu buddsoddiad a’u cefnogaeth. 

Cyfleoedd

Mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg ar draws y Coleg, er enghraifft:

  • Lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaethau yn Gymraeg
  • Cyfarwyddyd ar ble i ddod o hyd i gyrsiau dysgu Cymraeg lleol
  • Astudio rhan o’ch cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • Mynychu sesiynau sgiliau ‘Cymraeg ar gyfer y Gweithle’
  • Ailsefyll eich TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Gweithgareddau cyfoethogi Cymraeg fel siaradwyr ymweliadol, gemau, ymweliadau
  • Cyfleoedd dilyniant i gyrsiau cyfrwng Cymraeg Addysg Uwch
  • Digwyddiadau dwyieithog trawsgolegol i ddathlu ein treftadaeth Gymreig a’n diwrnodau gwyliau e.e. Diwrnod Shwmae, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, Rygbi'r Chwe Gwlad, yr Eisteddfod Genedlaethol, cystadlaethau a digwyddiadau chwaraeon Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru.
Swyddogion y Gymraeg

Mae ein dau Swyddog y Gymraeg yn gweithio i gefnogi ein dysgwyr a staff ar draws yr holl gampysau:

Menna Jones – Swyddog y Gymraeg (De) gyda chyfrifoldeb am ein campysau’r Graig, Rhydaman a’r Gelli Aur Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Heledd Dafis – Swyddog y Gymraeg (Gogledd) gyda chyfrifoldeb am ein campysau Aberystwyth, Aberteifi, Pibwrlwyd a Ffynnon Job Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Llysgenhadon y Coleg Cymraeg

Bob blwyddyn rydyn ni’n eithriadol o falch o’n Llysgenhadon Coleg Cymraeg sy’n ein helpu ni i hyrwyddo a threfnu cyfleoedd Iaith Gymraeg ymhlith ein dysgwyr ar draws y coleg. 

Aimee Davies – Gofal Plant Lefel 3 – Campws Rhydaman

Cara-Fflur Davies – Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 – Campws Aberystwyth

Ffion Evans – Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 – Campws y Graig

Francesca Thomas – Safon Uwch – Campws y Graig

Ioan Poole – Cyfryngau Creadigol Lefel 3 – Campws y Graig

Jac Howard-Davies – Coginio Proffesiynol Lefel 3 – Campws Pibwrlwyd

Mared Davies – Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3 – Campws Pibwrlwyd

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.