Skip to main content

Gwneud cais ar-lein am gwrs

1. I wneud cais am gwrs, bydd angen i chi ddod o hyd i’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, ar wefan y coleg, a chlicio ar y botwm Gwneud Cais.


2. Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda’r coleg, bydd angen i chi Greu cyfrif, a fydd yn caniatáu i chi olrhain eich cais.

  • Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol, ac nid cyfeiriad e-bost ysgol. Pan fyddwch yn creu eich cyfrif, byddwch yn creu eich cwestiwn atgoffa cyfrinair eich hun, ac ateb, rhag ofn y byddwch yn anghofio eich cyfrinair yn y dyfodol.
  • Os oes gennych chi gyfrif Prospect eisoes, ond ni roddwyd mewngofnodiad coleg i chi eto, yna gallwch chi ddefnyddio mewngofnodiad eich cyfrif Prospect (eich e-bost personol fel arfer) a’ch cyfrinair i fewngofnodi. 
  • Os ydych chi’n fyfyriwr yn y coleg ar hyn o bryd, a rhoddwyd manylion eich cyfrif coleg i chi, ac mae gennych gyfrif Google coleg actif, byddwch yn gallu mewngofnodi i Prospect (system ymgeisio’r coleg), gan ddefnyddio eich e-bost coleg, a chyfrinair eich e-bost coleg, gan ddefnyddio’r ddolen “Cliciwch yma i fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google coleg” ar dudalen fewngofnodi Prospect.


3. Ar sgriniau ymgeisio’r coleg, rhaid cwblhau unrhyw feysydd sydd wedi’u nodi â seren (*). Gallwch gadw eich cynnydd gyda chais, a mynd yn ôl ato yn nes ymlaen, os dymunwch. Fodd bynnag, dylech nodi bod rhai o’n cyrsiau’n gallu llenwi’n gyflym.

Bydd y tudalennau a welwch yn y cais ar-lein, yn dibynnu ar y math o gwrs rydych yn gwneud cais amdano, ond fel arfer byddwch yn gweld y canlynol: 

  • Manylion Personol - Manylion Personol, Iaith Gymraeg, Cyswllt mewn Argyfwng, Cyfeiriad Gohebiaeth
  • Manylion Pellach - Cyfleoedd Cyfartal, Cymorth a Chefnogaeth, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cyflyrau Meddygol, Gwneud Cais am Gludiant
  • Cymwysterau
  • Diogelu Data
  • Adolygu

4. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, fe welwch neges gadarnhau, a dylech dderbyn e-bost cadarnhau.

Os oes cyfweliadau ar gael i chi eu bwcio, gofynnir i chi ddewis un.  Os nad oes cyfweliadau ar gael bryd hynny, anfonir e-bost atoch yn eich gwahodd i drefnu cyfweliad, wrth i slotiau cyfweliadau ddod ar gael, ar gyfer eich cwrs.

Yna byddwch hefyd yn cael mynediad i’r holl dudalennau unigol yn Prospect:

  • Fy Nhudalen Hafan - Cynnydd y Cais, bwcio cyfweliadau, Dewisiadau Pynciau UG (os yn berthnasol), Derbyn Cynigion ac ati
  • Manylion Personol - Manylion cyswllt, manylion cyfeiriad, Dewisiadau o ran yr Iaith Gymraeg, Cyfle Cyfartal, Cymorth sydd ei angen mewn cyfweliad, cwestiwn gwneud cais am gludiant
  • Fy Ngheisiadau - Rhestr o’ch ceisiadau cyfredol
  • Fy Nghynigion - Rhestr o unrhyw gynigion rydych wedi'u derbyn (os oes rhai yn bodoli)
  • Fy Nghymwysterau - y cymwysterau rydych wedi'u rhoi, yn ystod y broses ymgeisio
  • Fy Nhystiolaeth - Unrhyw ddogfennau rydych wedi'u llwytho i fyny  
  • Fy Nghyfathrebiadau - Manylion sylfaenol unrhyw e-byst a gynhyrchwyd gan y system rydych wedi’u derbyn.
  • Fy Niogelu Data - Unrhyw drefniadau diogelu data neu gytundebau dysgwyr a nodir gan y coleg
  • Fy Anghenion Cymorth - Manylion unrhyw wybodaeth ADY rydych wedi’i rhoi
  • Fy Manylion Meddygol - Manylion unrhyw gyflyrau meddygol / iechyd / iechyd meddwl rydych wedi’u rhoi

Beth yw fy Enw Mewngofnodi Prospect?

Dangosir eich mewngofnodiad Prospect ar yr holl gyfathrebiadau a gewch gan y coleg.  Fel arfer, hwn fydd y cyfeiriad e-bost personol rydych wedi ei gofrestru gyda ni.   Os ydych yn ansicr o hyd, yna gallwch gysylltu â ni yma - Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair Prospect?

Gallwch ailosod eich cyfrinair Prospect yma - https://apply.colegsirgar.ac.uk/ResetPassword.

Dylech roi eich cyfeiriad e-bost personol, ac yna clicio ar cyflwyno.  Os deuir o hyd i’r e-bost personol rydych wedi’i roi, yna anfonir e-bost atoch gyda dolen i ailosod eich cyfrinair.  Os nad ydych yn derbyn yr e-bost, yna cysylltwch â ni yma - Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.