Mae ein Bwrdd Ymgynghorol yn chwilio am Feddylwyr Strategol
Mae’r coleg yn chwilio am feddylwyr strategol a all helpu i ddylanwadu a llywio datblygiad coleg addysg bellach lleol a’i wasanaethau i bobl ifanc a chyflogwyr yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.
Wrth fod yn rhan o wneud penderfyniadau ar lefel llywodraethiant, gall aelodau Bwrdd Ymgynghorol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Anogir y rheiny sydd am helpu i arwain gweledigaeth a gwaith Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn y dyfodol trwy rannu syniadau a phrofiad, i ymgeisio.
Oherwydd ymddeoliad aelodau presennol neu eu dyrchafiad i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, mae cyfleoedd newydd wedi agor i bobl newydd helpu i lunio dyfodol addysg bellach a dylanwadu ar reolwyr yn yr heriau niferus sy'n wynebu colegau a'r sector addysg bellach.
Mae’r Bwrdd Ymgynghorol yn ogystal yn cynorthwyo Bwrdd y Coleg wrth helpu i lywio’r coleg er mwyn sicrhau bod darpariaeth yn berthnasol, yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn barod ar gyfer diwydiant.
Mae gan y Corff Ymgynghorol hyd at 24 o aelodau sy'n cynnwys uwch reolwyr, rheolwyr canol a rheolwyr datblygol o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol lleol. Mae aelodau'n eistedd ar un o dri phwyllgor: -
Pwyllgor Adnoddau ac Ymgysylltu â Busnes:
Mae’r grŵp hwn yn monitro gwasanaethau cynnal y coleg megis ystadau a chyllid.
Pwyllgor Dysgwyr, Cwricwlwm a Sgiliau:
Mae’r grŵp hwn yn monitro cynnig y coleg i’r dysgwr megis pa gyrsiau sy’n cael eu cynnig.
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg:
Mae’r grŵp hwn yn monitro cofrestr risg y coleg ac yn derbyn adroddiadau gan archwilwyr mewnol ac allanol.
Pryd mae’r pwyllgorau’n cyfarfod?
Mae pob pwyllgor yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn, fel rheol ar nos Iau o 4pm ac mae cyfarfodydd fel arfer yn para rhyw ddwy awr. Mae’r grŵp yn adrodd yn uniongyrchol wrth Fwrdd y Cyfarwyddwyr ac mae pob pwyllgor yn cael ei arwain gan o leiaf ddau aelod bwrdd ac mae uwch reolwyr perthnasol yn mynychu.
Mae’r coleg yn trefnu o leiaf un digwyddiad hyfforddi ar gyfer aelodau’n flynyddol
Mae’r rôl yn cynnig datblygiad proffesiynol ar lefel uwch
Pan fydd lleoedd gwag yn codi ar Fwrdd y Coleg rhoddir blaenoriaeth i’r rheiny sydd eisoes ar y Bwrdd Ymgynghorol.
Pa mor hir yw’r tymor?
Penodir aelodau am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd (ar wahân i riant-lywodraethwyr y mae eu tymor yn ddwy flynedd).
Sut ydw i’n cael gwybod mwy?
Gobeithia’r coleg gyfarfod â darpar aelodau newydd yn wythnos gyntaf mis Tachwedd 2019 cyn i geisiadau gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Rhagfyr.
Dilynir hyn gan sesiwn gynefino â’r coleg a neilltuo i'r pwyllgorau er mwyn ceisio cydbwyso sgiliau unigol, profiad a diddordebau i'r pwyllgor priodol.
Yn ogystal, mae’r coleg yn awyddus i glywed gan y rheiny sydd â chysylltiad â’r coleg, megis cyn-fyfyrwyr, rhieni a chyflogwyr.
Anfonwch CV cyfredol drwy’r post at Marcus Beaumont, Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd, Coleg Sir Gâr, Campws y Graig, Pwll, Llanelli, SA15 4DN neu mewn neges ebost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Gallech ein helpu i gyflawni cenhadaeth ein coleg wrth ysbrydoli dysgwyr, cyflawni potensial ac ennill rhagoriaeth.