Y Ganolfan Asesu.
Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn. I gysylltu â ni, ebostiwch at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Croeso i wefan y ganolfan asesu. Yma byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am y ganolfan a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Mae Canolfan Fynediad Coleg Sir Gâr wedi’i lleoli ar gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ganolfan yn rhan o Rwydwaith Cenedlaethol y Canolfannau Asesu (NNAC) ac mae wedi’i chymeradwyo gan y Grwp Sicrhau Ansawdd Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA-QAG).
Mewn partneriaeth â’ch Corff Cyllido, mae Canolfan Fynediad Coleg Sir Gâr yn gweithio i’ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cwrs.
Amserau Agor
Oriau Swyddfa – ar gyfer pob Canolfan
Dydd Llun i ddydd Iau
08:45 tan 17:00
Dydd Gwener
08:45 tan 16:30
Asesiadau Anghenion
Mae asesiadau ar gael wyneb yn wyneb neu o bell.
Mae aseswyr ar gael i wneud asesiadau fel a ganlyn:
Dydd Llun i ddydd Iau
10:00 tan 15:00
Dydd Gwener
10:00 tan 14:00
Rydym yn ceisio eich gweld ar gyfer eich Asesiad o Anghenion ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl o fewn 10 i 15 diwrnod gwaith. Canllaw yn unig yw hyn fodd bynnag; weithiau gallwn eich gweld yn gynt ond gall trefnu dyddiadau neu amserau penodol i ffitio i mewn gyda’ch amserlen olygu bod rhaid i chi aros ychydig yn hirach. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth.