Skip to main content

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rhagarweiniad.

Ein huchelgais yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion yw creu man cynhwysol i weithio ac astudio ynddo, un a nodweddir gan Undod rhwng ein holl gymuned. Lle mae yna ymdeimlad o gydraddoldeb, amrywiaeth, ac ymdeimlad o berthyn rhwng ein holl fudd-ddeiliaid.

Grŵp amrywiol o 5 myfyriwr yn eistedd wrth edrych ar ffonau clyfar a chwerthin
Grŵp o dri myfyriwr, un ohonynt yn eistedd mewn cadair olwyn yn edrych ar yr un llyfr

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu ac mae pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo’u rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol neu drawsryweddol, oed, neu genedligrwydd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd traws-gynhwysol i’n holl staff, myfyrwyr, partneriaid ac ymwelwyr, sy’n cefnogi pobl drawsrywiol, anneuaidd a phobl â hunaniaethau eraill. Byddwn yn cyflawni hyn drwy adolygu ein polisïau a'r arweiniad a'r hyfforddiant rydym yn eu darparu yn barhaus.

2022 - 2027

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol

Gwobrau.

Logo hyderus o ran anabledd cyflogwr

Hyderus o ran Anabledd

Rydym wedi derbyn y symbol Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae’r statws hwn yn nodi’r cyflogwyr hynny sydd wedi cytuno i gymryd cyfres o gamau gweithredu’n ymwneud â recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd pobl anabl a’r rheiny â chyflyrau iechyd.


Amser i Newid

Ym mis Ionawr 23 gwnaethom lofnodi’r addewid Amser i Newid ar ôl cwblhau ein hunanasesiad a’n cynllun gweithredu, gan ddangos ein hymrwymiad i helpu codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ar gyfer ein staff a’n myfyrwyr.

Rhaglen a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Amser i Newid i herio stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl.

Fel rhan o’r addewid, rydym wedi llunio cynllun gweithredu sy’n cynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ar gyfer staff a myfyrwyr, a hyfforddiant ar gyfer rheolwyr llinell a staff rheng flaen.

Logo amser i newid cymru

logo grwp arwenyddiaeth pobl dduon

Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon AB

Mae’r Grŵp Arwain Pobl Dduon AB yn bodoli i herio hiliaeth systemig er budd yr holl gymunedau Du a chymdeithas ehangach y DU yn ei chyfanrwydd, i fod yn llais awdurdodol Gwrth-hiliaeth mewn F/AU, ysgolion, y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, a hyrwyddo buddiannau pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol sy'n rhannu profiad byw o effeithiau hiliaeth.


Fel aelod o'r Grŵp Arwain Pobl Dduon AB, rydym wedi cwblhau hunanasesiad a Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth i ddangos ein hymrwymiad i fod yn goleg gwrth-hiliaeth i'n holl gymuned.

Cydraddoldeb Hiliol.

Yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth hiliol ac ethnig o fewn ein cymuned ac rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

Ein nod yw hyrwyddo cyfleoedd a chanlyniadau teg i’n holl staff a myfyrwyr, ac nid oes gennym unrhyw oddefgarwch tuag at hiliaeth a gwahaniaethu o unrhyw fath.

Rydym yn canolbwyntio'n helaeth ar fod yn sefydliad gwirioneddol wrth-hiliaeth ac rydym yn gysylltiedig fel rhan o'r Grŵp Arwain Pobl Dduon sy'n ein cefnogi ni ynghyd â phob SAB arall yng Nghymru i ddatblygu eu Cynllun Gweithredu Gwrth Hiliaeth.

Grŵp amrywiol o fyfyrwyr yn cerdded ac yn chwerthin wrth gario llyfrau a bagiau

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.