Sylwch y bydd tiwtor eich cwrs mewn cysylltiad gyda gwybodaeth fwy penodol ynghylch dyddiadau dechrau cyrsiau
Hyfforddeiaethau | 27 Gorffennaf ymlaen |
Dysgwyr Addysg Bellach Llawn Amser | 7 Medi |
Dysgwyr Mynediad Sgiliau Byw’n Annibynnol | 14 Medi (Cysylltir â Rhieni/Gofalwyr yn unigol) |
Ysgolion 14-19 | 7 Medi |
Mynediad i Addysg Uwch | 14 Medi |
Rhaglenni prentisiaeth | 14 Medi |
Addysg Bellach ran-amser (oddi ar y campws) | 14 Medi |
Addysg Uwch | 21 Medi |
Addysg Bellach ran-amser (ar y campws) | 28 Medi |
Capasiti’r campysau ar gyfer mis Medi (Dydd Llun 7fed i ddydd Gwener 25ain)
Ni fydd mwy na 50% o fyfyrwyr o unrhyw gyfadran ar y campws ar unrhyw un adeg
ym mis Medi (hyd at Fedi 25ain). Bydd hyn yn caniatáu cyfnod setlo o 3 wythnos ar draws
yr holl gampysau. Bydd eich Tiwtor yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar y diwrnod cyntaf y byddwch chi’n mynychu’r Coleg.
Bydd y capasiti hwn yn cael ei adolygu a gall newid ym mis Hydref. Adeg y gwyliau hanner tymor,
bydd y capasiti ar gyfer y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn cael ei osod.
Ni fydd y 50% yn berthnasol i ddarpariaeth Ysgolion, lle bydd disgwyl i’r holl ddisgyblion fynychu.
Cynefino dysgwyr newydd
Mae safle cynefino Google canolog wedi’i wneud ar gael i bob dysgwr sydd wedi cofrestru. Bydd y cyfnod cynefino yn dechrau o 7 Medi.
Bydd y cyfnod cynefino yn para am yr wythnos gyntaf a bydd yn gymysgedd o fynediad o bell a mynediad ar y campws.
Cyn bo hir bydd hi’n amser cofrestru yn y Coleg. Bydd cofrestru 2020 yn cael ei gwblhau naill ai ar-lein neu yn bersonol yn y Coleg. Bydd hyn yn dibynnu ar eich astudio blaenorol.
Myfyrwyr sy’n dychwelyd: Os oeddech chi gyda ni’n llawn amser yn 2019-20, dylech allu cwblhau eich holl weithgarwch cofrestru ar-lein ac mae’n annhebygol y bydd rhaid i chi fynychu sesiwn gofrestru ar y campws.
Myfyrwyr newydd: Bydd y rheiny ohonoch sy’n newydd i’r Coleg a heb astudio’n llawn amser gyda ni o’r blaen, yn cael gwahoddiad i ddod i mewn i’r Coleg i gofrestru. Bydd hyn yn cael ei reoli'n ofalus yn unol â gweithdrefnau COVID-19. Ar ddiwedd y ddogfen hon rhoddir amserlenni’r campws a’r pwnc i fyfyrwyr newydd.
Bydd cofrestru yn canolbwyntio ar wahanol feysydd pwnc ar ddiwrnodau gwahanol. Cewch eich gwahodd i fynychu naill ai sesiwn fore neu brynhawn a rhaid sicrhau eich bod yn mynychu’r sesiwn gofrestru gywir. Caniateir i chi ddod ag un person arall gyda chi - ee, rhiant neu warcheidwad.
Bydd angen i chi ddod â dull adnabod megis pasbort, tystysgrif geni, llythyr yswiriant gwladol, ac ati (yn ddelfrydol, rhywbeth ag enw ac yn ddelfrydol llun arno’n ogystal). Gofynnir i chi hefyd ddod i mewn ag unrhyw ganlyniadau TGAU neu arholiadau eraill diweddar.
Fel myfyriwr newydd, byddwch yn cwrdd â staff addysgu wrth gyrraedd y campws i drafod opsiynau a chadarnhau eich rhaglen astudio. Yn dibynnu ar eich canlyniadau, byddwch yn cael eich neilltuo i raglenni priodol (ar Lefel Mynediad, 1, 2 neu 3) neu eich cyfeirio i gael cyngor pellach.
Byddwch hefyd yn cwrdd â staff cefnogi i gadarnhau:
Amserlenni’r Campws A’r Pwnc
Aberystwyth | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Mercher 26 Awst | (AM) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PM) Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dydd Iau 27 Awst | (AM) Busnes - Gofal Plant - Gwasanaethau Cyhoeddus (PM) Busnes - Gofal Plant - Gwasanaethau Cyhoeddus |
Dydd Gwener 28 Awst | (AM) Celf - Celfyddydau Perfformio - Cyfryngau Creadigol (PM) Celf - Celfyddydau Perfformio - Cyfryngau Creadigol |
Dydd Mawrth 1 Medi | (AM) Arlwyo - Astudiaethau Anifeiliaid - Mynediad (PM) Arlwyo - Astudiaethau Anifeiliaid - Mynediad |
Dydd Mercher 2 Medi | (AM) Mynediad i Wyddoniaeth (PM) Mynediad i Wyddoniaeth |
Rhydaman | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Mercher 19 Awst | (AM) Mynediad a Dechrau Newydd (PM) Mynediad a Dechrau Newydd |
Dydd Iau 20 Awst | (AM) Gwaith Saer (PM) Gwaith Saer |
Dydd Gwener 21 Awst | (AM) Gwaith Brics - Aml Grefftau - L3 Technegol (PM) Gwaith Brics - Aml Grefftau - L3 Technegol |
Dydd Llun 24 Awst | (AM) Plastro - Peintio (PM) Plastro - Peintio |
Dydd Mawrth 25 Awst | (AM) Gofal Plant (PM) Gofal Plant |
Dydd Mercher 26 Awst | (AM) Gosod Trydanol (PM) Gosod Trydanol |
Dydd Mawrth 1 Medi | (AM) Gwaith Plymwr (PM) Gwaith Plymwr |
Aberteifi | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Iau 20 Awst | (AM) Adeiladu - Gwneud Dodrefn (PM) Adeiladu - Gwneud Dodrefn |
Dydd Gwener 21 Awst | (AM) Modurol - Gwallt a Harddwch (PM) Modurol - Gwallt a Harddwch |
Dydd Llun 24 Awst | (AM) Gofal Plant - Arlwyo - Mynediad - Sylfaen (PM) Gofal Plant - Arlwyo - Mynediad - Sylfaen |
Dydd Mawrth 25 Awst | (AM) Cyfrifiadura - Chwaraeon (PM) Cyfrifiadura - Chwaraeon |
Y Graig (Llanelli) | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Mercher 19 Awst | (AM) Sylfaen (PM) Sylfaen |
Dydd Iau 20 Awst | (AM) Lefel UG (PM) Lefel UG |
Dydd Gwener 21 Awst | (AM) Lefel UG (PM) Lefel UG |
Dydd Llun 24 Awst | (AM) Peirianneg - Cyfrifiadura (PM) Peirianneg - Cyfrifiadura |
Dydd Mawrth 25 Awst | (AM) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PM) Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dydd Mercher 26 Awst | (AM) Chwaraeon (PM) Chwaraeon |
Dydd Iau 27 Awst | (AM) Gwasanaethau Cyhoeddus (PM) Gwasanaethau Cyhoeddus |
Dydd Gwener 28 Awst | (AM) Tech Cerdd - Celfyddydau Perfformio - Cyfryngau (PM) Tech Cerdd - Celfyddydau Perfformio - Cyfryngau |
Dydd Mawrth 1 Medi | (AM) Gwallt a Harddwch (PM) Gwallt a Harddwch |
Dydd Mercher 2 Medi | (AM) Mynediad - Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach (PM) Mynediad - Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach |
Y Gelli Aur | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Iau 20 Awst | (AM) Amaethyddiaeth (PM) Amaethyddiaeth |
Dydd Gwener 21 Awst | (AM) Peirianneg Amaethyddol (PM) Peirianneg Amaethyddol |
Ffynnon Job | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Mawrth 1 Medi | (AM) Celf Sylfaen (PM) Celf Sylfaen |
Dydd Mercher 2 Medi | (AM) Mynediad i Gelf a Dylunio |
Pibwrlwyd | AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00) |
---|---|
Dydd Mercher 19 Awst | (AM) Dechrau Newydd (PM) Dechrau Newydd |
Dydd Iau 20 Awst | (AM) Gofal Anifeiliaid (PM) Gofal Anifeiliaid |
Dydd Gwener 21 Awst | (AM) Gofal Anifeiliaid - Ceffylau (PM) Gofal Anifeiliaid - Ceffylau |
Dydd Llun 24 Awst | (AM) Arlwyo - Busnes - Teithio a Thwristiaeth (PM) Arlwyo - Busnes - Teithio a Thwristiaeth |
Dydd Mawrth 25 Awst | (AM) Celf a Dylunio (PM) Celf a Dylunio |
Dydd Mercher 26 Awst | (AM) Modurol (PM) Modurol |