Skip to main content

Canolfan Fodurol.

Mae Canolfan Fodurol Coleg Sir Gâr wedi ei lleoli ar Gampws Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.

Wedi’i hadeiladu i gynnwys cyfleusterau helaeth, mae’r ganolfan yn gyfleuster hyfforddi pwrpasol, modern gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol.

Mae cyfleusterau'r ganolfan yn cynnwys labordai diagnostig y gellir gyrru i mewn iddynt, gweithdai cerbydau ysgafn chwe-bae a chyfleuster MOT awtomataidd llawn. Yn ogystal mae’n cynnwys gweithdai cerbydau trwm, gweithdy chwaraeon modur gyda ffordd dreigl a swît o ystafelloedd dosbarth TG.

Mae blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant gan y tîm modurol, ac maent yn cyflwyno cyrsiau megis cymwysterau Profwr MOT a Rheolwr MOT.

Rhaglen arloesol a gyflwynir yn y ganolfan yw ei Hacademi Chwaraeon Modur ar gyfer plant 13 i 15 oed.  Mae profiad yr academi yn cyflwyno pobl ifanc i'r ystod amrywiol o feysydd sydd ar gael o fewn y diwydiant chwaraeon modur, megis ralio ac autograss. Mae’r rhaglen 10 wythnos, a ategir gan ymweliadau â’r diwydiant, yn cyflwyno sgiliau o ddarllen a chreu nodiadau cyflymder rali i osod siasi a thechnoleg teiars.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.