Cegin Sir Gâr yw cyfleuster hyfforddi Coleg Sir Gâr ar gyfer egin-gogyddion a maître d’staff. Mae’r Cegin Sir Gâr yn cynnig bwydlen table d’hote ac mae wedi hen ennill ei blwyf am ansawdd ei fwyd a’i wasanaeth, a gallwch fwynhau prydau o safon bwyty am brisiau rhesymol.
Ers nifer o flynyddoedd mae Cegin Sir Gâr wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch allu gwasanaethu’r cyhoedd mewn amgylchedd bwyty go iawn, gan roi profiad gwerthfawr iddynt o’r diwydiant ac o ymwneud â chwsmeriaid.