Skip to main content

Entrepreneuriaeth.

Lle mae eraill yn gweld risg, rydych chi’n gweld cyfle.

Rydych yn ffynnu ar newid.

Rydych yn dychmygu posibiliadau newydd: datrysiadau, cynhyrchion, y syniad mawr nesaf!

Nid yw dilyn eich cysyniad yn ddewis; mae'n gred ddwys sy'n eich dilyn chi i bobman. Ymddiriedwch yn y reddf honno. Porthwch hi.

P’un a ydych chi’n lansio menter newydd, neu’n ymuno â busnes sy’n dod i’r amlwg, rydych wedi dod i’r lle iawn.

Ymunwch â chymuned ddysgu wirioneddol fywiog.

Yn ychwanegol at ystod eang o gyfleoedd byddwn yn eich cefnogi i gael cyhoeddusrwydd, ennill sgiliau a chael profiad byd go iawn mewn dechrau busnes. Rydym yn cynnig hacathonau amlddisgyblaethol, mentora gan arbenigwyr yn y diwydiant, cyllid i ddechrau busnes, cystadlaethau a digwyddiadau gyda’n rhwydwaith entrepreneuraidd helaeth.

Siop entomoleg ar-lein yw Bug Box www.bugboxuk.co.uk Mae Bug Box yn mewnforio,  bridio a gwerthu pryfed egsotig ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Fe wnaeth Cameron adeiladu ei fusnes Bug Box tra’n astudio’r cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr. Ar ôl mynychu sgwrs fenter gan Becky Pask, penderfynodd Cameron fynd â’i freuddwyd o fod yn berchen ar fusnes ymhellach.

Fe wnaeth Becky gefnogi Cameron drwy greu cynllun busnes, cynnal ymchwil i’r farchnad, profi cyfleoedd masnachu ar draws Cymru a hyd yn oed fy nghyflwyno i Fusnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru. Siop entomoleg ar-lein yw Bug Box sy’n mewnforio, bridio a gwerthu pryfed egsotig ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Mae Cameron wedi casglu gwobrau megis Gwobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Radio Sir Gâr a Choleg Sir Gâr. Enillydd bwrsariaeth Hen Fechgyn Ysgol Ramadeg Llanelli a Chymdeithas Cyn-ddisgyblion y Graig, enillydd bwrsariaeth y Goleudy 2019 a chystadleuydd rownd derfynol yng ngwobr entrepreneur ifanc y flwyddyn a gwobr entrepreneur y flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2020.

Mae Bug Box hefyd wedi ymddangos yng Nghyfres 2 y BBC o Young, Welsh and Pretty Minted!

Cysylltwch â Becky Pask; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.