Skip to main content

Croeso i’r Llyfrgell.

Dewch i unrhyw un o’n llyfrgelloedd neu, os ydych yn fyfyriwr yn barod, archwiliwch ein safle Google (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost, eich enw defnyddiwr a chyfrinair Coleg pan ofynnir i chi) ac fe ddewch o hyd i ystod eang o adnoddau dibynadwy o’r ansawdd gorau. Ymwelwch â ni, ffoniwch neu cysylltwch gan ddefnyddio’r botwm Cysylltwch â Ni  i gysylltu â staff sy’n wybodus ac yn awyddus i helpu gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gynnig - gall gwasanaeth y llyfrgell gael effaith bositif ar eich astudiaethau a’ch gradd derfynol.

Rydym yn cadw rhai gwerslyfrau gwirioneddol ddefnyddiol, yn ogystal â llyfrau sy’n adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau, mae cyfnodolion, papurau newydd, DVDau a deunydd clywedol mewn stoc hefyd (ar rai safleoedd).

Ein hadrannau Lles/Wellbeing a Dyfodol/Future yw’r lleoedd i fynd atynt am gymorth ynghylch y testunau pwysig hyn.

Rydym yn darparu mynediad ar-lein i e-lyfrau, cyfnodolion a phapurau newydd  - hynny yw testun LLAWN y gellir ei gyrchu ar-lein 24/7 !

Cynigir sesiynau cynefino, sesiynau un-i-un sesiynau a gweithdai yn y dosbarth i’r holl ddysgwyr, beth bynnag yw lefel eich cwrs neu eich dull mynychu.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.