

Mwy Galluog a Thalentog
Mae gan 6ed Sir Gâr Raglen Mwy Galluog a Thalentog bwrpasol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, sy’n cydnabod ac yn datblygu eich profiad academaidd a diwylliannol tra eich bod gyda ni.
Cewch eich gwahodd i’r rhaglen MAT gyda hanes academaidd a dawnus profedig: ceir tystiolaeth drwy gael proffil TGAU rhagorol o naill ai 6A*+ neu os oes gennych 20 o bwyntiau SEREN o’ch 8 TGAU academaidd gorau. Mae meddu ar uchelgais bersonol i ennill profiad uwch-gwricwlaidd; i fod yn rhan o'r rhwydwaith SEREN; ac, i wneud ceisiadau cystadleuol i brifysgolion a chyrsiau mwyaf nodedig y DU, yn hanfodol.
Byddwch yn rhan o’r grŵp tiwtorial MAT, wedi’i arwain gan diwtoriaid MAT pwrpasol sy’n cyflwyno rhaglen deilwredig a gynlluniwyd i’ch cefnogi chi wrth gwireddu a chyflawni eich potensial.
Mewn pedair sesiwn wedi’u hamserlennu bob wythnos, ym mlwyddyn 1, byddwch yn dilyn y rhaglen addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd (PSHE) genedlaethol; yn cwblhau Cymhwyster Prosiect Estynedig CBAC; a chewch eich cefnogi wrth i chi ddatblygu’n oedolyn ifanc uchelgeisiol, sy’n cyflawni’n uchel ac sy’n wydn.

Cyflwynir y sesiynau gan eich tiwtor MAT personol, siaradwyr gwadd dethol a chyn-fyfyrwyr a fydd yn eich tywys drwy ‘brofiadau prifysgol’ ar feysydd megis, sut i wneud cais llwyddiannus ar gyfer ysgol haf yng ngholegau Yale, Harvard neu Rydychen a Chaergrawnt; profiad gwaith; gweithgareddau uwch-gwricwlaidd a gweithgareddau SEREN.
Trwy gydol y rhaglen MAT, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel hanfodol megis methodolegau ymchwil; meddwl beirniadol a magu hyder. Ym mlwyddyn 1 a 2, bydd gennych sesiynau sydd â ffocws ar baratoi a gwneud cais i brifysgolion gan eich cefnogi i baratoi’r cais UCAS gorau posib ar gyfer y brifysgol a’r cwrs o’ch dewis.

