Mae’r Academi Ddawns yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymwneud ag ystod o gyfleoedd cyfoethogi dawns ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae’r Academi Ddawns yn gwmni arddull dawns gyfoes amrywiol ar gyfer dawnswyr dawnus y coleg sy’n frwdfrydig, yn greadigol ac yn llawn dychymyg.
Bob wythnos bydd dawnswyr yn cael mynediad i ddosbarthiadau techneg, sesiynau coreograffig ac ymarferiadau perfformio.
Bydd myfyrwyr yn dod i mewn trwy glyweliadau ar ddechrau pob cyfle perfformio newydd, ac mae castio yn briodol yn ôl arddull y darn. Fel rhan o raglen yr Academi Ddawns, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiol weithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant megis Gwyn Emberton Dance a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Cânt fynediad i ystafelloedd ymarfer o safon broffesiynol, yn cynnwys y stiwdio ddawns llawr crog, mur drychau, barrau bale, neuadd ddrama, Swît Ffitrwydd yr Efail a Theatr yr Efail.
Mae’r Academi wedi perfformio mewn Gwyliau Celfyddyd Ddawns, digwyddiadau’r coleg ac wedi rhoi perfformiadau agoriadol mewn digwyddiadau Cenedlaethol.