Rhaglen rheolaeth ceffylau lefel tri dwy flynedd yw hon wedi'i lleoli ar iard gystadlu a chanolfan asesu BHS y coleg. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn rheolaeth ceffylau. Mae'r cwrs yn anelu at ddatblygu sgiliau ymarferol y dysgwr a thanategu'r rhain ag egwyddorion theori ystod o bynciau megis iechyd ceffylau, anatomeg a maetheg, hwsmonaeth ceffylau a rheolaeth iard. Mae’r cwrs yn cynnwys lleoliad profiad gwaith gorfodol o 150 o oriau yn ogystal â gweithgareddau cyfranogiad cyflogwyr gorfodol.
Fel rhan o'r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn adeiladu ar sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd a darperir cyfleoedd ar gyfer gwneud TGAU mewn Saesneg a mathemateg. Yn ogystal datblygir dwyieithrwydd y dysgwr.
Ochr yn ochr â'r cwrs, bydd y cyfle i sefyll arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) a gydnabyddir gan y diwydiant yn amodol ar gyrraedd y safon ofynnol.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi i’r dysgwr y cymhwyster sydd ei angen i fynd ymlaen ac i astudio ar lefel addysg uwch.
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs yn cynnwys astudiaethau academaidd yn yr ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol ar iard y coleg. Mae gan y coleg iard gystadlu gydag amrywiaeth o geffylau wedi'u gwastrodi mewn amrywiol ddisgyblaethau. Mae gan yr iard arena dan do ac arena awyr agored ynghyd ag amrywiol gyfleusterau rheoli a hyfforddi.
Fel rhan o'r cwrs, caiff y dysgwyr gyfle i redeg a chymryd rhan mewn cystadlaethau cyswllt a digyswllt a gynhelir yn y coleg.
Mae Coleg Sir Gâr yn ganolfan arholi a hyfforddi gymeradwy Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) sy'n cyflwyno a pharatoi dysgwyr ar gyfer asesiadau BHS mewn marchogaeth cyflawn o gam un i gam pedwar yn ogystal ag asesiadau a hyfforddiant y cynllun Marchogaeth Diogel. Hefyd bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn diwrnodau hyfforddiant ac arddangosiadau BHS.
Mae'r cwrs yn cynnwys ymweliadau â sefydliadau ceffylau arbenigol yn ogystal â darlithoedd ac arddangosiadau gan siaradwyr gwadd proffesiynol y diwydiant fel rhan o gyfranogiad cyflogwyr gorfodol.
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn cael profiad o ddysgu dwyieithog.
Blwyddyn 1
Unedau Craidd:
Unedau Opsiynol:
Ymarfer ceffylau neu Sgiliau ystâd
Blwyddyn 2
Unedau Craidd:
Cymwysterau Ychwanegol:
Asesiadau Marchogaeth BHS a Marchogaeth Diogel
Caiff myfyrwyr llwyddiannus y cyfle i fynd ymlaen i addysg uwch, er enghraifft cyrsiau gradd sylfaen llawn amser neu ran-amser, neu i gamu i yrfaoedd megis rheolaeth iard, gwaith gre, y diwydiant rasio neu wasanaethau cynghori.
Mae'r cwrs diploma estynedig ac arholiadau BHS dethol yn cario pwyntiau UCAS, gan alluogi'r dysgwr i wneud cais am gyrsiau addysg uwch.
Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio'n fewnol a'u cymedroli'n allanol.
Arholiad theori diwedd y flwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.
Dyddiadur lleoliad gwaith a gaiff ei farcio'n fewnol a'i gymedroli'n allanol.
Mae arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS) yn asesiadau ymarferol mewn gwybodaeth marchogaeth a cheffylau ac adrannau gofal.
Pedwar TGAU A*- C (gan gynnwys mathemateg, Saesneg neu Gymraeg) neu gymhwyster lefel dau mewn pwnc perthnasol i lefel teilyngdod.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, PPE ar gyfer sesiynau ymarferol a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.