Clybiau Sadwrn Sefydliad Sorrell yng Ngholeg Sir Gâr.
Celf a Dylunio / Ffasiwn a Busnes Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Mae ein Clybiau Sadwrn yn rhoi cyfle i bobl ifanc 13 - 16 oed gael mynediad i weithdai sy'n rhad ac am ddim bob bore Sadwrn yn y coleg.
Yn ogystal â 30 wythnos o ddosbarthiadau ysbrydoledig mewn meysydd yn amrywio o weldio a marsiandïaeth weledol i animeiddio stop-symudiad, mae aelodau'r Clwb yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau gorau Llundain ac yn arddangos gwaith yn eu Sioe Haf eu hunain yn Somerset House. Hefyd maen nhw'n cael cyfle i fynychu Dosbarthiadau Meistr ysbrydoledig gyda rhai o artistiaid a dylunwyr mwyaf blaengar y Deyrnas Unedig. Hyd yma mae'r Dosbarthiadau Meistr wedi cynnwys Roger Stirk Harbour a Phartneriaid, Arup, Wilkinson Eyre a David Constantino.
Nod pob Clwb yw meithrin doniau, adeiladu hyder a hunan-barch. Hefyd mae ein Clybiau'n rhoi cipolwg ar fywyd coleg ac yn archwilio llwybrau gyrfaol.
Ymholiadau: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Criw Celf
Prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Criw Celf sydd yn dod â myfyrwyr mwy galluog a thalentog at ei gilydd yn y celfyddydau gweledol - gyda myfyrwyr yn amrywio o 9-18 oed. Mae'n rhan o fenter genedlaethol i feithrin talent artistig ifanc yng Nghymru. Wrth weithio'n agos gydag ysgolion, colegau a’r gymuned leol, mae Criw Celf yn ceisio datblygu ymarfer creadigol disgybl a'i wybodaeth am gelfyddydau gweledol a chymhwysol drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr.
Yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr rydym yn cyflwyno’r Prosiectau Criw Celf Canlynol:
Anelir Portffolio at ddysgwyr ym mlynyddoedd ysgol 10 ac 11 (TGAU)
Anelir Codi'r Bar at ddysgwyr ym mlynyddoedd ysgol 12 ac 13 (Lefel UG a Safon Uwch)
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o fanylion
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.