Skip to main content

Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  • Campws Pibwrlwyd

Os ydych chi’n rheolwr llinell ac eisiau adeiladu eich gyrfa reoli hyd yn oed ymhellach, yna bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut i fod yn arweinydd effeithiol yn eich sefydliad.   

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau craidd mewn rheolaeth ganol.  Dysgwch am sut i gyfathrebu gweledigaeth y sefydliad yn effeithiol i’ch tîm a sut i reoli a datblygu perthnasoedd â budd-ddeiliaid allweddol.   Datblygwch eich sgiliau arwain drwy ysgogi a datblygu eich tîm hyd eithaf eu gallu. Mae’r rhaglen yn rhoi sgiliau i unigolion mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.  

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r rhaglen yn cynnwys saith uned: 

  • Deall y rôl rheolaeth er mwyn gwella perfformiad rheolaeth
  • Deall a datblygu perthnasoedd yn y gweithle 
  • Rheoli a gweithredu newid yn y gweithle 
  • Deall arweinyddiaeth
  • Rheoli datblygiad personol 
  • Datblygu pobl yn y gweithle
  • Deall arfer da wrth hyfforddi yn y gweithle 
  • Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.
Dilyniant a Chyflogaeth

Yr hyn byddwch chi’n ei gyflawni: 

  • Byddwch yn ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Dysgu sut i gael rheolaeth ar eich datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Buddion i’r cyflogwr: 

  • Bydd eich cyflogwr yn cael rheolwyr canol llawn cymhelliant gyda gallu profedig i berfformio
  • Cael y fantais o weithio gyda rheolwyr sy'n gallu asesu a gwella eu datblygiad eu hunain
  • Cyflawni gwell cyfathrebu a chydweithio mewn timau
Dull asesu

Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.