Dylai myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl dysgu o bell ar-lein hwn ennill gwerthfawrogiad o egwyddorion ac arferion rhoi cymorth cyntaf i anifeiliaid mewn ystod o rywogaethau, ynghyd â dealltwriaeth o’r dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol.
Mae’r modiwl yn cynnwys deg sesiwn astudio ar wahân, a phob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol wedi’u cynllunio’n benodol i gynorthwyo’r dysgwr o bell i ddatblygu’r wybodaeth greiddiol a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gwblhau’r asesiadau.
Byddai’r modiwl o fudd i unrhyw un sy’n berchen ar anifeiliaid neu sy’n anelu at weithio gydag anifeiliaid. Byddai’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygir fel rhan o’r modiwl hwn hefyd yn tawelu meddwl cwsmeriaid unrhyw fusnes anifeiliaid bach megis twtwyr anifeiliaid anwes, cyndai a chathdai, rhai sy’n gwarchod a cherdded cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn cael eu diogelu. Fel y cyfryw, gall y modiwl hwn ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig ar gyfer unrhyw gyflogai busnes o’r fath.
Bydd y rheiny sy'n cymryd y cwrs e-ddysgu hwn yn cael hyfforddiant o tua 200 awr o ddysgu dan gyfarwyddyd. Hefyd profir eich gwybodaeth gan gyfres o asesiadau ar gwblhau pob un o'r modiwlau. Ar gwblhau’r cwrs drwy’r llwybr asesiad ar-lein, rhoddir Tystysgrif Cyflawniad Prifysgol Cymru i chi.
![]() |
Hyd y Cwrs |
200 Awr |
![]() |
Canlyniad y Cwrs |
Tystysgrif Cyflawniad Prifysgol Cymru |
![]() |
Pris | £633 |
![]() |
Asesu |
Ar-lein |
Jane Thope, Gogledd Swydd Efrog