Highfield Lefel 1 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo (RQF)
Mae'r Coleg Rhithwir wedi ymuno â Highfield eLearning i gynnig ystod o gyrsiau Hylendid Bwyd y gellir eu hastudio ar-lein o'ch cartref, eich swyddfa neu unrhyw fan yn y byd sydd â wifi neu gysylltiad â'r rhyngrwyd! Mae hwn yn gwrs achrededig a bydd dysgwyr llwyddiannus yn derbyn cymhwyster RQF Highfield ar gwblhau am arholiad amlddewis. Cwblheir yr arholiad dan amodau arholiad yn un o'n canolfannau prawf yn Ne Cymru. Mae yna nifer o opsiynau iaith, gan gynnwys Pwyleg a Chymraeg, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Mae'r modiwlau hyfforddiant a gynhwysir yn y cwrs hwn yn cwmpasu maes llafur allweddol cymwysterau Lefel 1 mewn Diogelwch Bwyd. Mae'r modiwlau hyn yn cynnwys:
Cyflwyniad i ddiogelwch bwyd
Peryglon microbiolegol
Gwenwyn bwyd a sut i'w reoli
Peryglon halogiad a sut i'w rheoli
Trin a storio bwyd yn ddiogel
Hylendid personol
Heintiau bwyd a difa plâu
Glanhau a diheintio
Bydd y rheiny sy'n cymryd y cwrs e-ddysgu hwn yn cael tua phedair awr ddysgu dan gyfarwyddyd o hyfforddiant. Yr un yw'r cynnwys dysgu ar gyfer pob arholiad Lefel Un, fodd bynnag mae'r opsiwn hwn yn cynnwys arholiad diogelwch bwyd sy'n canolbwyntio ar arlwyo.
Cipolwg
Hyd y Cwrs
4 Awr
Canlyniad y Cwrs
Highfield
Pris
£40.00
Asesu
dysgu ar-lein + asesiad seiliedig ar arholiad - arholiad i'w sefyll yn un o'n canolfannau yn Ne Orllewin Cymru
Geirda Dysgwr
"Mwynheais wneud y cwrs yn fawr iawn, roedd yn hawdd i'w ddilyn a rhoddodd i mi'r holl wybodaeth oedd ei hangen arnaf"
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.