Côd UCAS: C22
Côd Cwrs: W000
Mae'r rhaglen radd Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gradd bwrpasol eu hunain, gan ddethol cyfuniad o fodiwlau wedi'u dewis allan o ddwy o'n graddau arbenigol sydd yn targedu eu doniau a'u diddordebau penodol eu hunain. Er enghraifft, cerflunio a darlunio digidol; ffasiwn a thecstilau; cerameg a gemwaith a ffotograffiaeth.
Rydym yn deall y gall fod yn anodd ar brydiau i fyfyrwyr ddewis gradd os oes ganddynt amrywiol gryfderau, diddordebau a galluoedd artistig, a gall dewis un radd arbenigol olygu eu bod yn fforffedu un diddordeb er mwyn dilyn un arall. Felly, gall y syniad y gallant gyfuno eu doniau dan ymbarél gradd Amlddisgyblaethol fod yn apelgar iawn.
Fodd bynnag, nid yw'n radd i'w dilyn heb wneud cryn dipyn o waith meddwl. Rhaid i'r myfyriwr Amlddisgyblaethol fod yn dda am reoli amser a bod yn drefnus. Dylai fod yn barod i gymdeithasu a rhyngweithio ag amrywiaeth o grwpiau myfyrwyr gan y bydd ei amserlen bersonol yn croesi i wahanol raglenni arbenigol. Mae'r rhyngweithio hwn rhwng dwy ddisgyblaeth wahanol yn datblygu cyfleoedd i arloesi, yn galluogi myfyrwyr i weithio ar draws cyd-destunau celf a dylunio ac yn arwain at ymarfer creadigol amrywiol, cyffrous ac amlochrog.
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei naws 'deuluol', rydym yn cynnig polisi drws agored lle caiff myfyrwyr eu hannog i drafod modiwlau arfaethedig gyda thiwtoriaid profiadol cyn ffurfioli eu rhaglen astudio. Mae meintiau'r dosbarthiadau yn fach ac mae'r cyswllt â thiwtoriaid heb ei ail. Bydd gennych weithfan unigol a mynediad i stiwdios a gweithdai penodol sydd yn gysylltiedig â'r adrannau yr ydych yn bwriadu astudio ar eu traws. Gweler y Disgrifydd a Nodweddion Rhaglen sy'n benodol ar gyfer eich dwy adran radd arbenigol ddewisol am ragor o wybodaeth.
Mae'r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gan roi pwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a dialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel eich bod yn barod i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a'u mapio. Mae cyfleoedd mynych i gymryd rhan mewn arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau, cystadlaethau a phrosiectau byw (yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir) yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posibl. Mae'r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol. Mae'r myfyrwyr yn mynychu gweithdai yn ystod eu blwyddyn gyntaf lle maent yn dysgu sgiliau trwy arbrofi mewn amgylchedd addysgu hamddenol a chynhwysol.
Caiff hyn ei ddylanwadu gan feysydd arbenigol y ddwy raglen radd a ddewisir. Artist neu ddylunydd llawrydd gyda'r potensial ar gyfer ymarfer cyfryngau cymysg, entrepreneur, addysgwr, rheoli dyluniadau, artist cymunedol, rheoli digwyddiadau, therapydd celf, gweinyddwr celfyddydau, curadur arddangosfeydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD) ac ati.
Blwyddyn 1 – Blwyddyn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai. Mae'r flwyddyn ar ffurf wyth modiwl i gyd, mae pedwar yn orfodol ac yna mae'r myfyrwyr yn dewis pedwar ar draws eu dwy ddisgyblaeth ddewisol. Mae'r modiwlau gorfodol yn cwmpasu Datblygu Iaith Weledol, Sgiliau Astudio a Datblygu Iaith Feirniadol a Chyd-destunol, Damcaniaethau Estheteg a Phrosiect Creadigol. Ar gyfer y pedwar modiwl dewisol gweler fanylion cynnwys rhaglen y ddwy radd arbenigol y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Blwyddyn 2 – Blwyddyn ddatblygiadol sydd wedi'i llunio i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau perthnasol i ddiwydiant. Mae'r flwyddyn yn cynnwys pum modiwl i gyd, mae tri yn orfodol ac yna mae'r dysgwyr yn dewis dau ar draws eu dwy ddisgyblaeth ddewisol. Mae'r modiwlau gorfodol yn cwmpasu Sgiliau Proffesiynol, Diwylliant Gweledol a Materol a Phrosiect Arbenigol. Ar gyfer y ddau fodiwl dewisol gweler fanylion cynnwys rhaglen y ddwy radd arbenigol y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Blwyddyn 3 – Briff personol wedi'i gyd-drafod sy'n caniatáu i chi gyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio i baratoi ar gyfer symud ymlaen yn y dyfodol ac uchelgeisiau personol. Mae'r flwyddyn yn cynnwys pedwar modiwl, pob un ohonynt yn seiliedig ar brosiectau unigol: Methodoleg Ymchwil Gweledol, Safbwyntiau Damcaniaethol o Ymarfer, Sgiliau Proffesiynol: Menter a Chyflogadwyedd a Phrosiect Mawr; sydd yn diweddu mewn cyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion mynediad
Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.
Gweithdrefnau dewis
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22 chôd y cwrs yw W000. Bydd y ceisiadau'n cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.
Cyfryngau Cymdeithasol
https://www.facebook.com/CSOAMultidisc/
https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt
Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.