Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r cwrs hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn rhoi cyfle delfrydol i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol i archwilio, datblygu ac ehangu eu brwdfrydedd creadigol o fewn strwythur cymhwyster sydd yn ysgogol ac ymestynnol ac sy’n helpu darparu proses bontio gefnogol o addysg bellach i addysg uwch.

Caiff ei gyflwyno dros ddwy flynedd a bydd cynnwys y cwrs yn sicrhau y bydd yn dysgu i chi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i gyrsiau gradd Addysg Uwch Lefel 4 i 6, neu addysg neu gyfleoedd hyfforddiant eraill.

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn archwilio ystod o ddisgyblaethau a phrosesau celf a dylunio a fydd yn llywio eich dewis o arbenigedd yn yr ail flwyddyn.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn datblygu Prosiect Mawr o fewn y ddisgyblaeth ddewisol hon ac yn cynhyrchu portffolio gweledol sy’n addas ar gyfer ceisiadau am raddau celf a dylunio arbenigol a chyfleoedd gwaith.

Cyfryngau cymdeithasol: 

Facebook:  https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

Instagram: https://www.instagram.com/feartanddesign_csoa/ 

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/ 

Cipolwg

  Llawn Amser

  2 flynedd

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o ddatblygiad sgiliau, arbrofi a symbyliad ar draws ystod o ddisgyblaethau. Ei nod yw rhoi cipolwg i chi ar ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol yn ogystal â chael dealltwriaeth o ystod o ddulliau a sgiliau priodol i ddatrys problemau creadigol cymhleth a chyflwyno gwaith i gynulleidfaoedd priodol.

Yn ei dro, mae hyn yn eich helpu i adnabod y maes penodol o fewn celf a dylunio y dymunwch arbenigo ynddo.  

Mae sylwadau tiwtor a chymheiriaid yn rhoi modd i adfyfyrio’n effeithiol a phriodol ar sgiliau, dulliau, gweithredoedd a chanlyniadau eich gwaith.  Mae hyn yn eich annog i gymryd perchnogaeth o’ch dysgu eich hun, eich datblygiad a gwneud penderfyniadau.

Cynnwys y Rhaglen


Ym mlwyddyn un mae’r cwrs Diploma Lefel 3 Celf a Dylunio’n cynnwys 9 uned sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chrefft, gan gynnwys 2D, 3D a gwaith seiliedig ar amser, ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol, sgiliau datblygiad creadigol a sgiliau dilyniant.

Ym mlwyddyn dau cwblheir 4 uned bellach er mwyn cyflawni’r Diploma Estynedig Lefel 3.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Tystysgrif Her Sgiliau neu Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a Sgiliau Cyflogadwyedd.

Dilyniant a Chyflogaeth


Bydd cwblhau’r Diploma Estynedig lefel tri yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch sy’n cynnwys ystod eang o raddau mewn amrywiaeth o bynciau creadigol, ac mae’n darparu’r sgiliau a all arwain at gyfleoedd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth eraill mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau.  Mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis mynd ymlaen yn uniongyrchol i’n rhaglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1,000 ar eu cyfer. 

Asesu'r Rhaglen


Caiff pob uned ei hasesu'n fewnol a'i dilysu'n fewnol ac eithrio'r prosiectau mawr terfynol, sy'n cael eu cymedroli’n allanol gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL)

Asesir pob uned ar waith portffolio’r myfyriwr.  Yn ychwanegol at hyn, mae unedau’r prosiect mawr terfynol hefyd yn gorffen gydag arddangosfa sy’n cael ei hasesu. 

Gofynion y Rhaglen


Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.  Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.     

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y Diploma Estynedig lefel tri feddu ar bump TGAU graddau A* i C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg.    Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.  Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs.  Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol. 

Costau Ychwanegol


Mae yna ffi stiwdio o £100 y flwyddyn ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu eich gwaith ymarferol yn ein gweithdy a'n cyfleusterau stiwdio.  

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.