Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: W101 

Mae’r cwrs Celfyddyd Gain hwn yn dysgu myfyrwyr sut i drin paent, lluniadu a gwneud printiau mewn gweithdai bach; gan astudio pynciau traddodiadol fel peintio bywyd llonydd a ffigyrau. Yn y flwyddyn gyntaf mae myfyrwyr yn mynychu gweithdai, gan ddysgu trwy arbrofi mewn amgylchedd dysgu llawn hwyl a chynhwysol. Mae pob myfyriwr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau lluniadau cynrychiadol drwy arsylwi’n agos ar fywyd go iawn. Rhoddir yr un pwysigrwydd i hyn â dulliau cysyniadol o wneud celfyddyd gain gyfoes.

Caiff dulliau unigol eu cefnogi gan ddarlithwyr y mae eu hymarfer eu hunain yn cynnwys: peintio, lluniadu, gwneud printiau, gosodiadau, celf safle-benodol a chelfyddyd gain trawsddisgyblaethol. Mae’r holl elfennau yn cwmpasu maes eang ymarfer celfyddyd gain er mwyn galluogi arbenigo a mynd i’r afael â dewisiadau unigol. Gallwch ymroi i’r posibilrwydd o weithio ar draws ffiniau a thechnolegau er mwyn dilyn eich diddordebau personol a’ch sgiliau. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio  a rhyngweithio cyffrous.

Cipolwg

  Llawn Amser neu Rhan Amser

  3 blynedd yn llawn amser; gellir astudio yn rhan-amser

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Byddwch yn astudio mewn ysgol gelf bwrpasol draddodiadol. Mae’r artistiaid y byddwch yn gweithio gyda nhw yn weithwyr proffesiynol sydd â phroffiliau arddangos cyfredol a rhyngwladol. Mae ein hysgol gelf yn cynnig mannau gwaith unigol a stiwdios penodol i chi ar gyfer lluniadu’r byw, peintio, a stiwdio brintio bwrpasol ar gyfer gwaith bloc pren, lithograffeg cerrig ac ysgythru.

Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio.  Mae cyfleoedd cyson ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau cyhoeddus yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib. Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol.  Mae'r gallu i feddwl yn greadigol hwn a addysgir sy'n gysylltiedig ag ymarfer celfyddyd gain yn dod yn fwy a mwy pwysig ym myd masnach a busnes.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant. 

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Artist hunangyflogedig, entrepreneur, addysgwr, cynllunydd golygfeydd llwyfan, therapydd celf, gweithiwr sector cyhoeddus, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr, ymchwilydd celf, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Gofynion mynediad

Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.

Gweithdrefnau dewis

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22 a chôd y cwrs yw W101. Bydd y cynigion yn cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/fineartatcarmarthenschoolofart/

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/fineart_csoa/

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.