Mae ein rhaglen fywiog yn cynnig profiad diagnostig sy’n eich annog i arbrofi a gwneud dewisiadau gwybodus ar gyfer astudiaethau ac ymarfer creadigol yn y dyfodol.
Mae'n gweithredu fel pont rhwng eich astudiaethau Lefel 3 (Safon Uwch a chyfwerth) a blwyddyn gyntaf gradd. Gallwch archwilio ystod eang o sgiliau a fydd yn eich helpu i ddod yn feddyliwr ochrol, hyblyg wrth baratoi ar gyfer lle mewn addysg uwch a chyflogaeth.
Byddwch yn astudio mewn amgylchedd creadigol sy’n symbylu dyfeisgarwch, arbrofi a dadansoddi. Caiff y rhaglen ei dysgu yn adrannau Gradd Ysgol Gelf Caerfyrddin a chewch hefyd eich gofod stiwdio eich hun i ymgymryd â gwaith prosiect.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn yn llawn amser.
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Byddwch yn archwilio pob maes cwricwlwm o fewn celf a dylunio cyn dewis pa lwybr arbenigol sy'n addas i'ch diddordebau personol chi. Byddwch yn datblygu sgiliau wrth weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau a fydd yn eich helpu i gynhyrchu a datblygu syniadau a chanlyniadau. Bydd ein darlithoedd
Astudiaethau Cyd-destunol yn cefnogi eich astudiaethau. Mae'r elfen gyffrous hon o'r cwrs yn helpu i gynyddu eich hyder wrth feddwl yn greadigol a beirniadol, myfyrio personol a gwybodaeth bynciol o arferion hanesyddol a chyfoes.
Cyflwynir y rhaglen 5 diwrnod yr wythnos am 35 wythnos ac nid oes ffioedd dysgu - mae AM DDIM.
Cynnwys y Rhaglen
Rhennir y rhaglen yn dri cham:
Cam Un: Byddwch yn mynychu ystod o weithdai er mwyn eich cyflwyno i brosesau a ffyrdd o weithio.
Cam Dau: Byddwch yn dewis a dilyn eich llwybr arbenigol dewisol; i’ch cefnogi i adeiladu portffolio sy'n briodol i'ch cwrs astudio mewn addysg uwch neu gyflogaeth.
Cam Tri: Rydych yn aros o fewn eich llwybr arbenigol dewisol ond mae'r pwyslais ar uchelgais, unigolrwydd, ac annibyniaeth. Byddwch yn cynnig ac yn datblygu eich arddangosfa diwedd blwyddyn.
Dilyniant a Chyflogaeth
Cewch eich addysgu gan diwtoriaid gradd ac arbenigwyr pwnc, y mae gan y rhan fwyaf ohonynt eu hymarfer eu hunain, sy'n annog trosglwyddo gwybodaeth yn uniongyrchol. Byddwn yn eich helpu i adeiladu portffolio pwnc-benodol ac, wrth ddefnyddio cyfleusterau arbenigol, yn eich cyflwyno i ffyrdd o weithio yn barod ar gyfer astudio gradd neu fynd ymlaen i gyflogaeth.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgolion ledled y DU neu’n dewis symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr; byddwch yn gymwys i gael Bwrsariaeth Dilyniant Mewnol o £1000 ar eu cyfer.
Asesu'r Rhaglen
Rhaid i chi basio pob maen prawf ar bob Cam i symud ymlaen i’r Camau dilynol.
Asesir unedau yn fewnol. Byddwch hefyd yn creu Prosiect Mawr terfynol a gaiff ei gymedroli’n allanol gan CBAC, bydd canlyniadau’r rhain yn pennu gradd ddiploma derfynol o Ragoriaeth, Teilyngdod neu Bas.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf a dylunio i’w cyfweliad. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs feddu ar: Gymhwyster Lefel 3 (gwell pe bai’n ymwneud â Chelf) a 5 TGAU graddau A* - C neu gyfwerth, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (Iaith gyntaf) neu Saesneg a Mathemateg. Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus a chyflwyniad o waith celf.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.