Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 3 blynedd yn llawn amser; mae astudio’n rhan-amser ar gael

  • Campws Ffynnon Job

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: WW27

Mae’r syniad o addurno’r corff wedi bodoli ac esblygu dros filoedd o flynyddoedd, gan amrywio o’r ymarferol i’r addurnol; cyfathrebu naratifau personol a datganiadau cymdeithasol mewn gwrthrychau gwisgadwy, atgofus.  Mae datblygiadau diwylliannol a chymhwyso dulliau i ddeunyddiau’n arloesol wedi bod wrth wraidd gwneud gemwaith bob amser a bydd myfyrwyr ar y cwrs dylunio gemwaith hwn yn cael eu herio a’u hannog i feddwl yn arloesol a chreadigol am ystod o ddeunyddiau, gan ddefnyddio prosesau gwneud traddodiadol a datblygiadau newydd mewn technoleg.   

Hwn yw’r unig gwrs gradd gemwaith annibynnol yng Nghymru ac mae ei strwythur yn canolbwyntio ar sesiynau gweithdy ymarferol sy’n cael eu cyflwyno i grwpiau bach mewn gweithdai sydd â chyfarpar da.  Mae’r amser cyswllt â thiwtor heb ei ail a bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu gan unigolion profiadol ac ymroddedig, pob un â'i ymarfer creadigol ei hun, sy’n cynnig safbwyntiau gwahanol.   Yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf, caiff myfyrwyr y cyfle i archwilio sgiliau ymarferol sy’n amrywio o ffurfio metel, ffabrigo, torri â laser, enamlo a chastio.  Ochr yn ochr â hyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai lluniadu a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau dylunio ac arsylwi.  Byddant hefyd yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl a gwybodus o faes gemwaith.     

Yn ystod yr ail flwyddyn astudio, mae ein tîm o staff uchel eu cymhelliant yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr i nodi eu llais creadigol unigol trwy gyfuniad o weithdai strwythuredig ac astudio’n annibynnol, gan fireinio sgiliau ymarferol a beirniadol hefyd sy’n cael eu cryfhau ymhellach trwy feirniadaethau grŵp gyda chymheiriaid a sesiynau tiwtorial un i un.   Erbyn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr yn gallu arbenigo mewn setiau sgiliau dethol, gan fireinio eu hunaniaeth greadigol unigryw mewn amgylchedd cefnogol, cynhwysol ochr yn ochr â datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogadwyedd yn y diwydiant creadigol, ymarfer stiwdio unigol neu greu darnau untro i’w harddangos.    Yn ogystal caiff myfyrwyr y cyfle i arddangos eu gwaith blwyddyn olaf yn sioe’r Dylunwyr Newydd yn Llundain.

Nodweddion y Rhaglen

Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi.  Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol.  Mae’r staff, y byddwch chi’n gweithio’n agos â nhw, i gyd â’u hymarfer creadigol proffesiynol eu hunain, sy’n gyson â datblygiadau newydd yn y maes. Bob blwyddyn byddwch chi’n cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad nid yn unig i weithdai gemwaith pwrpasol, ond hefyd i gyfleusterau o fewn meysydd eraill y coleg er mwyn hybu dull rhyngddisgyblaethol a chydweithredol tuag at wneud. Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer ffabrigo gemwaith, ffurfio metel, ysgythru, enamlo gyda thechnoleg argraffu decal modern, gwneud mowldiau gyda chyfleusterau castio metel mewnol, torri â laser a’r dechnoleg argraffu 3D safon uchel ddiweddaraf.  

Mae’r cwrs astudio’n cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio unigol gyda phwyslais ar grefftwaith a sgil dylunio gemwaith. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio, gan sicrhau creadigrwydd gwybodus. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio a gweithio arloesol.

Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn teithiau, arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau a chystadlaethau arbenigol sy’n eu paratoi'n broffesiynol ar gyfer dyheadau gyrfa yn y dyfodol. Mae’r sgiliau hyn i gyd yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol lle mae meddwl beirniadol a chreadigol a addysgir, a gysylltir yn draddodiadol ag ymarfer celfyddydol, bellach yn cael eu ceisio’n gynyddol ym myd masnach a busnes. 

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac ymarfer annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Dylunydd gwneuthurwr 3D annibynnol, artist neu ddylunydd cerameg a gemwaith, crochenydd stiwdio, gwneuthurwr modelau ar gyfer theatr a ffilm, dylunydd ategolion, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Gweithdrefnau dethol

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS, ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw WW27. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw'n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o'r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe'u hystyrir ar sail unigol. Gall myfyrwyr rhyngwladol gael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.  Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau. 

Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.