Skip to main content

Tystysgrif AU Tecstilau: Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Ffynnon Job 

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CATX

Mae tecstilau yn faes astudio cyffrous sy'n cynnwys creu, dylunio a chynhyrchu gwahanol fathau o ffabrigau a deunyddiau. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn dylunio ffasiwn, peirianneg tecstilau, neu'n syml am ddysgu mwy am decstilau fel hobi, mae sawl agwedd allweddol i'w harchwilio.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein rhaglenni gradd.  Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn tecstilau a’u dysgu.

Yn unigryw yng Nghymru, y cyfle i archwilio prosesau gwehyddu, gwau a chyfryngau cymysg; lluniadu a dylunio digidol i ffurfio sylfaen ar gyfer datblygu. Mae briffiau ar sail sgiliau yn caniatáu i fyfyrwyr gynhyrchu gwaith ar gyfer amrywiaeth o gyd-destunau'r farchnad e.e. ffabrigau ffasiwn, dyluniwr-gwneuthurwr/crefft, ategolion, tecstilau ar gyfer y tu mewn a chelf tecstilau.

Mae myfyrwyr yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy e.e. llythrennedd digidol, meddalwedd CAD a sgiliau cyfathrebu.  Anelwn at feithrin sgiliau ymarferol gyda thrylwyredd academaidd a phroffesiynoldeb.

Nodweddion y Rhaglen

Mae hon yn rhaglen sydd ag adnoddau da iawn gyda chyfleusterau gweithdy sy'n cynnwys: gwyddiau llaw traddodiadol (ar gael i bob myfyriwr), gwyddiau a yrrir gan gyfrifiadur, cudynnu matiau, peiriannau gwau domestig a diwydiannol, labordy llifynnau, torri â laser, weldio â laser ac asio uwchsonig; ochr yn ochr â chyfarpar printio, addurno a phwytho safonol. Defnyddir ystod eang o feddalwedd dylunio masnachol ar lwyfannau Mac a chyfrifiadur personol. Mae pob myfyriwr yn cael ei drin fel unigolyn ac yn cael ei annog i greu gwaith sy'n adlewyrchu ei ddiddordebau a'i ddyheadau unigryw.  Mae myfyrwyr yn cael mannau gwaith pwrpasol mewn stiwdio olau ac awyrog sydd â’r holl gyfarpar. Mae maint dosbarthiadau yn fach sy'n caniatáu lefel uchel o ryngweithio gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Tecstilau Lluniedig, Ymchwilio i Ddefnyddioldeb, Datblygu Iaith Weledol, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn tecstilau), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allent symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydynt yn dewis gwneud hynny.   Fel arall, maent yn gadael gyda sgiliau dylunio ac ymarferol arbenigol ochr yn ochr â sgiliau trosglwyddadwy i ddefnyddio fel sail ar gyfer cam nesaf eu datblygiad gyrfa.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (lefel 5 a 6) mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa a dilyniant ar gael fel: dylunydd/artist tecstilau, gwaith arddangosfeydd celf neu waith gosod, dylunio - llawrydd neu'n fewnol, dylunydd/gwneuthurwr, gweithiwr celf cymunedol, curadur arddangosfeydd, athro/darlithydd, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD) i enwi ond ychydig.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, tiwtorialau a thrafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd i drafod ei bortffolio creadigol a’i uchelgeisiau. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod pob darpar fyfyriwr yn addas ar gyfer y cwrs a bod y cwrs yn addas iddo.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol.  Darperir deunyddiau hanfodol ar gyfer cwblhau briffiau modiwl ac mae gan yr adran storfa edafedd â stoc dda.  Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.