Cynllun Turing
https://www.turing-scheme.org.uk/about/
Cynllun Turing yw rhaglen fyd-eang llywodraeth y DU ar gyfer astudio a gweithio dramor.
Yn dibynnu ar eich rhaglen astudio yn y Coleg, cewch gyfle i ddysgu dramor ac ennill profiad rhyngwladol hanfodol. Mae astudio dramor yn cynnig cyfleoedd adeiladu gyrfa, unigryw a bydd yn eich helpu i ddatblygu llu o sgiliau newydd, a dealltwriaeth well o ddiwylliannau eraill.
Bydd astudio rhyngwladol yn helpu datblygu eich annibyniaeth. Gallwch ddisgwyl cael eich herio ond yn y pen draw byddwch yn cael un o’r profiadau dysgu mwyaf gwerthfawr tra eich bod yn y coleg.
Mae astudio rhyngwladol yn edrych yn wych ar eich CV, ac yn aml mae’n rhoi mantais i chi mewn cyfweliad!
Mae rhai o’n myfyrwyr wedi ymwneud â gweithgareddau Erasmus+, sydd wedi darparu cyfleoedd lleoliad gwaith iddynt ar draws Ewrop. Dyma ychydig o enghreifftiau o brosiectau Erasmus+ fydd yn parhau tan 2022.
Bydd myfyrwyr mewn Chwaraeon, Antur Awyr Agored a Thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr yn teithio i Palma, Malorca ar gyfer lleoliad gwaith. Yn ystod yr ymweliad 2-wythnos, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn canolfan syrffio, clwb hwylio a gwesty.
Bydd myfyrwyr Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg Coleg Sir Gâr yn teithio i Ogledd Orllewin Sbaen ar gyfer lleoliad gwaith.
Mae lleoliadau gwaith gan aelodau ein Hacademi Bêl-droed ym Mhortiwgal.


