Cystadlaethau Sgiliau.
Rydym yn falch iawn o’n llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau Cymru, y DU a WorldSkills. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi ennill medalau mewn ystod eang o sectorau, sydd wedi eu rhoi ar y blaen ar gyfer y farchnad swyddi.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n aliniedig â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru. Nod y cystadlaethau, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’u cynnal gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru.
Mae cystadlaethau sgiliau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid godi eu proffil drwy gystadlu ar draws ystod o sectorau. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau yn rhad ac am ddim ac fel rheol cynhelir hwy rhwng mis Ionawr a mis Mawrth bob blwyddyn.

Goreuon y DU ar y Ffordd i Sianghai

Ennill medalau yn WorldSkills UK Live

Prentis yn ennill efydd yn WorldSkills Kazan

Buddugoliaeth driphlyg am sgiliau cyfrifiadura

