Skip to main content
App
Yr Academi Perfformiad
App
Yr Academi Perfformiad
previous arrow
next arrow

Academi Gerddoriaeth

Mae’r Academi Gerddoriaeth yn cynnig gweithgareddau allgyrsiol ardderchog i’n dysgwyr. Cynhelir academïau ‘Jazz’ a ‘Band’ bob prynhawn Mercher. Mae amrywiaeth ein hacademïau yn caniatáu i fyfyrwyr gyflawni eu huchelgeisiau ym mha ddisgyblaeth bynnag y byddant yn dewis ei dilyn.

Mae’r Academi Gerddoriaeth yn darparu rhaglen gyfoethogi amrywiol sy’n ategu datblygiad cerddorol parhaus. Caiff myfyrwyr y cyfle i weithio o fewn stiwdios recordio byw’r coleg yn ogystal â defnyddio’r meddalwedd a thechnoleg fwyaf diweddar.  Hefyd caiff myfyrwyr y cyfle i berfformio mewn digwyddiadau Rhanbarthol a Chenedlaethol a’u hyfforddi gan ymarferwyr proffesiynol y diwydiant a chymryd rhan yng nghystadleuaeth Sgiliau’r DU.

Bob blwyddyn rydym yn cael sgyrsiau a gweithdai fel rhan o raglen yr Academi Gerddoriaeth a gyflwynir gan gerddorion sy’n enwog yn rhyngwladol yn ogystal â chyn-fyfyrwyr Coleg Sir Gâr.

Academi Ddawns

Mae’r Academi Ddawns yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymwneud ag ystod o gyfleoedd cyfoethogi dawns ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae’r Academi Ddawns yn gwmni arddull dawns gyfoes amrywiol ar gyfer dawnswyr dawnus y coleg sy’n frwdfrydig, yn greadigol ac yn llawn dychymyg.

Bob wythnos bydd dawnswyr yn cael mynediad i ddosbarthiadau techneg, sesiynau coreograffig ac ymarferiadau perfformio.

Bydd myfyrwyr yn dod i mewn trwy glyweliadau ar ddechrau pob cyfle perfformio newydd, ac mae castio yn briodol yn ôl arddull y darn.  Fel rhan o raglen yr Academi Ddawns, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiol weithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant megis Gwyn Emberton Dance a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Cânt fynediad i ystafelloedd ymarfer o safon broffesiynol, yn cynnwys y stiwdio ddawns llawr crog, mur drychau, barrau bale, neuadd ddrama, Swît Ffitrwydd yr Efail a Theatr yr Efail.

Mae’r Academi wedi perfformio mewn Gwyliau Celfyddyd Ddawns, digwyddiadau’r coleg ac wedi rhoi perfformiadau agoriadol mewn digwyddiadau Cenedlaethol.

Côr

Mae Côr Coleg Sir Gâr yn ymfalchïo yn ei enw da sy'n ehangu’n gyflym yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, ac mae'n cael ei wahodd yn aml i berfformio mewn digwyddiadau clodfawr.  Mae’r côr, sy’n cael ei gyfarwyddo gan arbenigwyr yn y diwydiant, yn cwrdd bob prynhawn dydd Mercher ac mae’n agored i fyfyrwyr ar draws y coleg cyfan o’r holl lefelau a meysydd astudio.

Mae’r repertoire yn bennaf yn cynnwys Theatr Gerdd Gyfoes gyda ffocws ar harmonïau agos a pherfformiad egni uchel, corfforol trwy gân. Yn ogystal, mae caneuon Cymraeg yn ein repertoire safonol.

Os hoffech wneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd hwyliog a chreadigol, efallai mai’r Côr yw’r ateb ac rydym yn croesawu pob myfyriwr!

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.