Mae cyflawni rhagoriaeth ac ysbrydoli dysgwyr wrth wraidd 6ed Sir Gâr.
Caiff yr egwyddorion sylfaenol hyn eu gyrru gan staff ymroddedig, gwybodus a phrofiadol sy’n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei lawn botensial.
Er mwyn cyflawni hyn, maen nhw’n darparu heriau a chefnogaeth hefyd i sicrhau bod yr amser rydych yn ei dreulio yn y coleg yn gynhyrchiol ac yn bleserus yn ogystal. Byddwn yn tanio eich uchelgais ac yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i’ch galluogi i fod yn llwyddiannus.
Mae’r coleg yn lle ffantastig i astudio a datblygu eich gyrfa ac mae ganddo gysylltiadau gwych gyda chyflogwr gan ei fod wedi’i wreiddio'n ddwfn yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
Mae Coleg Sir Gâr yn sefydliad gofalgar, yn helpu i lunio a chefnogi dysgwyr i ymdrechu am yr hyn maen nhw eisiau bod a'r hyn maen nhw am ei gyflawni yn eu bywydau.
Rydym wedi teilwra’r cyrsiau Safon Uwch i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y budd mwyaf o hyfforddiant o’r radd flaenaf, profiadau rhagorol a’r cyfleusterau sydd gan y coleg i’w cynnig.
Mae llawer o ddysgwyr yn mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, ac mae llawer bellach mewn gyrfaoedd proffesiynol ledled y DU a thu hwnt.
Byddwch yn barod i weithio’n galed a chael hwyl gan y bydd y cyfleoedd mae’r coleg yn eu darparu yn eich grymuso i ffynnu, gan ddatblygu sgiliau gydol oes a fydd yn eich galluogi i groesawu’r heriau a ddaw i’ch rhan yn y dyfodol, tra’n dathlu’r llwyddiant a’r gwobrau anochel a ddaw yn sgil gyrfa lewyrchus.
Rwy’n dymuno’r gorau i chi ar eich taith gyda ni.
Dr Andrew Cornish
Prif Weithredwr / Pennaeth
Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion