MAE LLAWER O FYFYRWYR YN ANSICR A DDYLENT ASTUDIO AR LWYBR SAFON UWCH TRADDODIADOL NEU DDEWIS CYMHWYSTER GALWEDIGAETHOL MEGIS DIPLOMA CYNTAF NEU GENEDLAETHOL.
Mae Safon Uwch i raddau helaeth yn gwrs academaidd sy’n seiliedig ar arholiadau ac ystyrir y llwybr hwn yn gam tuag at fynd i brifysgol. Fodd bynnag, mae’n well gan nifer o fyfyrwyr ffordd fodiwlaidd a chryno o astudio sy’n seiliedig ar aseiniadau. Mae Diploma Cenedlaethol yn gyfwerth â thri Safon Uwch a chaiff ei dderbyn gan nifer o brifysgolion a chyflogwyr. Fodd bynnag, mae’n dibynnu mewn gwirionedd ar ddull dysgu’r myfyriwr a’i ddyheadau er mwyn gweld pa gymhwyster sydd orau iddo.
I glywed dwy ochr y ddadl, dyma ein myfyrwyr sy’n gallu dweud mwy wrthych am eu profiadau.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN