

Beth yw Prentisiaeth?
Yn syml iawn, mae prentisiaethau’n ffordd i ennill arian wrth ddysgu.
Enillwch gymwysterau drwy weithio a hyfforddi tra’n ennill cyflog. Fel Prentis, bydd angen i chi fod yn gyflogedig yn y maes rydych am weithio ynddo ac, ar yr un pryd, byddwch yn datblygu eich sgiliau penodol i swydd drwy gyfuniad o ddysgu yn y gwaith a hyfforddiant yn y coleg. Fel rhan o’ch amser yn y gwaith byddwch yn datblygu eich sgiliau proffesiynol bob wythnos, gan ddysgu gan gydweithwyr profiadol a thrwy brofiad uniongyrchol yn y gweithle.
Yn y Coleg, bydd eich tiwtoriaid, sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn darparu’r holl hyfforddiant gofynnol ar gyfer eich sector a byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae eich cyflogwr yn gadael i chi fynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y swydd honno.
Mae’n gyfuniad perffaith!

Ar gyfer pwy mae Prentisiaeth?
Mae prentisiaethau ar gael i weithwyr newydd neu weithwyr presennol ar draws ystod o lefelau.
Er enghraifft, mae rhai cwmnïau yn cyflogi staff lefel mynediad ar Brentisiaethau Lefel 2 neu efallai eich bod eisoes yn gweithio o fewn sefydliad ac eisiau uwchsgilio'ch hun i astudiaeth lefel uwch neu lefel gradd drwy Brentisiaeth.
Prentisiaeth Astudiaethau Achos

Beth yw manteision ymgymryd â Phrentisiaeth?
- Ennill cyflog wrth i chi ddysgu sgiliau newydd
- Cael gwyliau â thâl, ynghyd â gwyliau banc
- Cael profiad gwaith ymarferol, yn y gwaith
- Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n hynod ddeniadol i’ch cyflogwr presennol a chyflogwyr yn y dyfodol
- Bydd eich hyfforddiant yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y gallwch chi osgoi’r dyledion mawr sy’n gysylltiedig â mynd i brifysgol
- Llwybr dilyniant i addysg uwch drwy brentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd
Gwahanol lefelau o Brentisiaethau
Beth bynnag yw eich lefel, mae yna wahanol fframweithiau prentisiaeth sy'n addas i bawb. P’un a ydych newydd adael yr ysgol, rydych yn raddedig neu eisoes yn gyflogedig, gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i’r man cychwyn cywir.
Rydym yn cynnig 3 lefel o raglenni prentisiaeth yn dibynnu ar eich cymwysterau mynediad a’ch sgiliau a’ch gwybodaeth flaenorol.

Prentisiaeth Sylfaen
Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 2 (megis NVQ Lefel 2) ynghyd â Sgiliau Hanfodol.
- Cymhwyster Cyfwerth
Mae’n gyfwerth â phum pas TGAU da

Prentisiaeth
Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 3 (megis NVQ Lefel 3) ynghyd â Sgiliau Hanfodol.
- Cymhwyster Cyfwerth
Mae’n gyfwerth â dau bas Safon Uwch

Prentisiaeth Uwch
Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 4/5 (megis NVQ Lefel 4 neu uwch) ynghyd â Sgiliau Hanfodol.
- Cymhwyster Cyfwerth
Cyfwerth â HNC/HND neu lefel Gradd Sylfaen ac uwch
Ein Cyrsiau Prentisiaeth
Rydym yn cynnig cyfoeth o wahanol raglenni hyfforddiant prentisiaeth ar draws ystod o sectorau.
Mae rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys:
Sut i sicrhau Prentisiaeth
Os ydych dros 16, yn byw yng Nghymru ac nid ydych mewn addysg lawn amser, gallwch wneud cais am Brentisiaeth. Yn gyntaf, bydd angen i chi ddod o hyd i gyflogwr. Mynnwch rai awgrymiadau doeth gyda'n canllaw cam wrth gam isod.

Dod o hyd i gyflogwr - Mae Gyrfa Cymru yn cyhoeddi Prentisiaethau gwag ar-lein drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau lle gallwch chwilio am brentisiaethau gwag ledled Cymru. Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr bob blwyddyn i gynnig Prentisiaethau.
Ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru i weld y swyddi gwag diweddaraf. Weithiau mae prentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu yn adrannau swyddi papurau newydd neu fe allech chi hefyd fynd at gyflogwr yn uniongyrchol. Os ydych eisoes yn gweithio, yna gallwn gynnig cyngor ac arweiniad i chi ac i’ch cyflogwr hefyd ynghylch y broses o drefnu rhaglen brentisiaeth ar eich cyfer.

Cysylltwch â ni - Cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau i drafod a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen Brentisiaeth. Ffoniwch 01554 748000 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i wneud cais am Brentisiaeth sy’n cael ei rhedeg ar safleoedd ein Coleg ni.
Bydd yn ofynnol i chi ymgymryd ag asesiad cychwynnol mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol a chyfweliad cyn cam 3.

Y cytundeb - Byddwch chi, eich cyflogwr a’r Coleg yn cytuno ar raglen ddysgu prentisiaeth.

Cofrestrwch yng Ngholeg Sir Gâr - Cwblhewch y broses drwy gofrestru ar eich rhaglen hyfforddiant prentisiaeth ac rydych yn barod i gychwyn arni.
Gofynion Mynediad
Gall unrhyw un sydd dros 16, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg lawn amser, wneud cais am Brentisiaeth. Bydd angen i chi gael cyflogaeth yn y sector yr hoffech weithio ynddo cyn gwneud cais i’r Coleg am eich hyfforddiant.
Yn ogystal, bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad cychwynnol mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Os ydych eisoes wedi'ch cyflogi, yna gallwn weithio gyda chi a'ch cyflogwr i drefnu rhaglen brentisiaeth sy'n addas i chi.

Mae'r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

